Israel ag America'n cynnal ymosodiad milwrol 'sylweddol' yn erbyn Iran
Mae Israel wedi ymosod ar Iran ddydd Sadwrn, a hynny gyda chydweithrediad America.
Dyma'r ail dro i'r wlad ymosod ar Iran yn y misoedd diwethaf, yn dilyn rhyfel 12 diwrnod rhwng y ddwy wlad ym mis Mehefin y llynedd.
Mae lluniau'n dangos mwg yn codi o adeiladau sydd wedi eu taro gan daflegrau yn Tehran, ac mae'r ddwy wlad wedi cau eu gofod awyr.
Dywedodd Israel Katz, Gweinidog Amddiffyn Israel bod ei wlad wedi cynnal ymosodiad ar Iran a bod Israel bellach mewn "cyflwr o argyfwng arbennig a pharhaol."
Mewn neges ar Truth Social, dywedodd yr Arlywydd Donald Trump fod ei wlad wedi dechrau "ymgyrchoedd milwrol sylweddol" yn erbyn Iran.
Y bwriad oedd i amddiffyn pobl America drwy gael gwared ar fygythiadau'r wlad honno, ychwanegodd.
Mae'r awdurdodau yn Iran wedi dweud eu bod yn cynnal ymosodiadau ar Israel i dalu'r pwyth yn ôl.
Mae adroddiadau bod taflegrau wedi taro canolfan Pumed Fflyd Llynges yr Unol Daleithiau yn Bahrain.
Mae ffrwydradau wedi eu clywed hefyd yn yr Emiradau Arabaidd Unedig a Kuwait.
Mae Syr Keir Starmer wedi cynnal cyfarfod brys o bwyllgor Cobra fore dydd Sadwrn, ac mae llefarydd ar ran Llywodraeth y DU wedi dweud nad oedd Prydain yn rhan o'r ymosodiad ar Iran.
Mae'r Swyddfa Dramor wedi diweddaru ei chyngor teithio i rybuddio yn erbyn teithio i Israel a Phalesteina.
Mewn datganiad ar ei gwefan, dywedodd y swyddfa: “Oherwydd y bygythiad a achosir gan y sefyllfa yn y rhanbarth, rydym yn argymell yn erbyn pob teithio i Israel a Phalesteina.
"Ar 28 Chwefror 2026, dechreuodd yr Unol Daleithiau ac Israel weithredu milwrol ar y cyd yn Iran, mae gofod awyr Israel bellach wedi cau.”
Dywedodd British Airways eu bod wedi canslo hediadau i Tel Aviv a Bahrain tan 3 Mawrth.
Dywedodd llefarydd ar ran British Airways: “Rydym yn monitro’r sefyllfa’n agos ac wedi cymryd y penderfyniad gweithredol i ganslo ein hediadau i Tel Aviv a Bahrain hyd at ac yn cynnwys 03 Mawrth ac wedi canslo gwasanaeth heddiw i Amman."
Tensiynau
Mae tensiynau wedi bod yn cynyddu yn y rhanbarth ers wythnosau, gyda Arlywydd Donald Trump yn dweud yn ddiweddar wrth bobl Iran bod "cymorth ar y ffordd."
Roedd yn ymateb i brotestiadau gwaedlyd gan bobl mewn dinasoedd yn Iran yn ddiweddar yn erbyn yr awdurdodau dan reolaeth yr Ayatollah Ali Hosseini Khamenei.
Mewn neges yn gynnar fore dydd Sadwrn, dywedodd byddin Israel, yr IDF, bod seirenau wedi canu drwy'r wlad i rybuddio ei phobl am ymosodiadau posib o gyfeiriad Iran yn yr oriau i ddod.
Dywedodd y neges: "Yn ystod y munudau diwethaf, cânwyd seirenau ledled Israel, gyda rhybudd cyfarwyddiadau ymlaen llaw yn uniongyrchol i ddyfeisiau symudol i aros yn agos at fannau gwarchodedig.
"Mae hwn yn rhybudd rhagweithiol i baratoi'r cyhoedd ar gyfer y posibilrwydd y bydd taflegrau'n cael eu lansio tuag at Wladwriaeth Israel. Mae'r IDF yn pwysleisio bod gofyn i'r cyhoedd aros yn agos at fannau gwarchodedig."
Llun: WANA / Reuters