'Y Gân' gan Geth Tomos, Henry Priestman ac Emlyn Gomer yn ennill Cân i Gymru 2026
'Y Gân' gan Geth Tomos, Henry Priestman ac Emlyn Gomer sydd wedi ennill cystadleuaeth Cân i Gymru 2026.
Cafodd y gân ei dewis yn enillydd drwy bleidlais gyhoeddus yn fyw ar raglen Cân i Gymru ar S4C nos Sadwrn.
Cyfansoddwyr y gân yw Geth Tomos a Henry Priestman ac Emlyn Gomer ysgrifennodd y geiriau. Dyma’r ail gân gan y tri oedd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni. Fe gollodd Emlyn tri ffrind yn sydyn iawn ac roedd hynny yng nghefn ei feddwl wrth ysgrifennu geiriau’r gân.
Y linell ‘Ond er bod bywyd wedi dwyn dy lais’ symudodd y gân yn ei flaen. Mae Geth yn ei disgrifio hi fel anthem o gân.
Y gantores Sara Owen oedd yn perfformio’r gân.
Osian Huw Williams, prif leisydd y band Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr oedd yn cadeirio panel y rheithgor eleni.
Yn ymuno ag Osian ar y rheithgor roedd Barry ‘Archie’ Jones o’r band Celt, y gantores a'r gyfansoddwraig, Mali Hâf, y cyflwynydd a’r DJ radio, Mirain Iwerydd, a phrif leisydd y band Gwilym, Ifan Pritchard.