Donald Trump yn honni bod arweinydd Iran wedi marw mewn cyrch milwrol
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump wedi honni bod arweinydd Iran, yr Ayatollah Ali Khamenei, wedi marw yn dilyn ymosodiadau milwrol gan Israel ag America ar Iran.
Mewn neges ar ei gyfrwng Truth Social, dywedodd Mr Trump nos Sadwrn fod yr Ayatollah Khamenei, "un o'r bobl mwyaf dieflig mewn hanes, wedi marw".
Yn gynharach roedd Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, wedi dweud fod "arwyddion cynyddol" bod arweinydd Iran wedi "mynd".
Mae'r asiantaeth newyddion Reuters, gan ddyfynnu uwch swyddog o Israel, yn adrodd bod corff yr Ayatollah Ali Khamenei wedi'i ddarganfod.
Dywedodd Donald Trump fod y newyddion am farwolaeth yr Ayatollah "nid yn unig yn gyfiawnder i bobl Iran, ond i bob Americanwr Mawr, a'r bobl hynny o lawer o wledydd ledled y byd, sydd wedi cael eu lladd neu eu hanafu gan Khamenei a'i griw o ddrwgweithredwyr gwaedlyd.
"Nid oedd yn gallu osgoi ein Cudd-wybodaeth a'n Systemau Olrhain Hynod Soffistigedig a, thrwy weithio'n agos gydag Israel, nid oedd dim y gallai ef, na'r arweinwyr eraill a laddwyd ynghyd ag ef, ei wneud.
"Dyma'r cyfle mwyaf i bobl Iran adennill eu Gwlad".
Mae Syr Keir Starmer wedi trafod y sefyllfa yn y Dwyrain Canol gyda Donald Trump nos Sadwrn meddai Downing Street.
Siaradodd y Prif Weinidog â Mr Trump dros y ffôn, meddai llefarydd.
Ychwanegodd y llefarydd fod Syr Keir wedi “nodi bod y DU yn cymryd rhan mewn camau amddiffynnol rhanbarthol i amddiffyn pobl Prydain a phartneriaid rhanbarthol yn dilyn ymosodiadau Iran ar gynghreiriaid yn y rhanbarth”.
Mae'r Ysgrifennydd Tramor Yvette Cooper wedi condemnio ymosodiadau Iran ar ôl i dân ddechrau mewn gwesty yn Dubai.
Mewn datganiad ar X, dywedodd Ms Cooper ei bod wedi siarad gydag Ysgrifennydd Tramor yn yr Emiradau Arabaidd Unedig, Abdullah bin Zayed Al Nahyan, “i fynegi ein undod â'r Emiradau Arabaidd Unedig”.
Ychwanegodd: “Mae'r golygfeydd yng Ngwesty'r Palm yn Dubai yn ofnadwy. Mae'r DU yn condemnio'r ymosodiadau Iranaidd hyn.”
Ar draws y Dwyrain Canol mae'r Emiradau Arabaidd Unedig, Qatar, Gwlad yr Iorddonen, Kuwait a Bahrain - pob un yn gartref i ganolfannau milwrol yr Unol Daleithiau - yn dweud eu bod wedi dinistrio taflegrau Iran oedd yn eu gofod awyr ddydd Sadwrn.
Mewn datganiad ar y cyd gydag arweinwyr Ffrainc a'r Almaen dywedodd Syr Keir fod "rhaid i Iran ymatal rhag ymosodiadau milwrol ar hap."
"Rydym yn condemnio’n gryf ymosodiadau Iran ar wledydd yn y rhanbarth," meddai'r datganiad.
"Mae rhaid i Iran ymatal rhag ymosodiadau milwrol ar hap. Rydym yn annog arweinyddiaeth Iran i chwilio am ddatrysiad trwy drafodaeth yn lle ymosodiadau.
"Dylai pobl Iran gael yr hawl i ddewis eu dyfodol."