'Toriadau trychinebus': Corws Opera Cenedlaethol Cymru yn pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol
'Toriadau trychinebus': Corws Opera Cenedlaethol Cymru yn pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol
Mae corws Opera Cenedlaethol Cymru wedi pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol mewn anghydfod dros swyddi a chyflogau.
Daeth y cyhoeddodd ddydd Iau gan undeb Equity.
Mae 93% o gorws Opera Cenedlaethol Cymru wedi pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol, medd yr undeb.
Dywedodd Opera Cenedlaethol Cymru eu bod yn "siomedig" â'r penderfyniad.
Dywedodd Paul W Fleming, Ysgrifennydd Cyffredinol Equity: “Mae canlyniad y balot hwn yn bleidlais ysgubol o ddiffyg hyder yn rheolaeth Opera Cenedlaethol Cymru ac mae’n dangos na fydd aelodau’r corws yn derbyn y toriadau trychinebus.
“Mae ein haelodau wedi blino o gael cyfarfwyddyd i fod yn wydn ac i ddelio gyda’i hamgylchiadau. Mae hon yn bleidlais ysgubol dros wrthwynebiad i’r ffaith bod rheolwyr yn fodlon derbyn y dewis gwleidyddol o lymder.’
“Rhaid i reolwyr Opera Cenedlaethol Cymru ail-edrych ar y cynigion anghyfiawn hyn a chymryd rhan mewn proses sy’n diogelu statws amser llawn ein haelodau ac yn cydnabod y gwerth enfawr y mae’r gweithlu tra medrus hwn yn ei roi i enw da’r cwmni a’i waith.”
Dywedodd llefarydd ar ran Opera Cenedlaethol Cymru (OCC): “Er ein bod yn parchu penderfyniad y bleidlais a drefnwyd gan Equity sy’n cynrychioli aelodau corws OCC, rydym yn siomedig y bydd hyn yn golygu y bydd ein cynulleidfaoedd yn colli allan yn y pen draw oherwydd yr effaith ar berfformiadau/cyngherddau.
“Rydym wedi parhau i gynnal trafodaethau agored a thryloyw gydag undebau ac wedi ymrwymo i ddod o hyd i ateb sy’n gweithio i aelodau ein corws tra hefyd yn cydnabod realiti sefyllfa ariannol WNO yn dilyn toriadau sylweddol i’n cyllid cyhoeddus.
“Ni fyddai’n briodol i ni wneud sylw pellach ar hyn o bryd.”