Dedfryd o 11 mlynedd o garchar i ddyn yn dilyn marwolaeth ei ffrind
Mae dyn o Rondda Cynon Taf wedi ei ddedfrydu i 11 mlynedd yn y carchar am ddynladdiad dyn arall yn dilyn digwyddiad mewn tŷ.
Roedd Thomas Griffiths, 34 oed, o Riverside Close, Ynyshir, Porth eisoes wedi pledio’n euog i ddynladdiad Christian Dean, oedd yn dad i dri o blant, ar 17 Tachwedd.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i dŷ ar Ffordd Graig, Porth toc cyn 13:00 ar 26 Mehefin yn dilyn adroddiad 999 fod Mr Dean wedi’i anafu yno.
Fe wnaeth y gwasanaethau brys ddarganfod Mr Dean yn anymwybodol ar lawr y gegin yn yr eiddo.
Roedd adroddiadau’n awgrymu mai Griffiths oedd yn gyfrifol am yr anafiadau, ac yn ddiweddarach, fe gafodd ei arestio yn ei dŷ ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol.
Ond wedi i Mr Dean farw o ganlyniad i’w anafiadau, fe gafodd Griffiths ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Wrth gael ei arestio, fe ddywedodd Griffiths: “Wyt ti o ddifrif met? Fe yw fy ffrind gorau.”
Fe ychwanegodd: “Mae fy ffrind wedi marw.”
Yn yr achos dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd, dywedodd un o frodyr Mr Dean" “Mae colli ef wedi chwalu ein teulu wrth i bob un ohonom ymdopi â’r galar mewn ffyrdd gwahanol.
"Mae’n dorcalonnus gweld effaith hyn ar blant Christian. Maen nhw mor ifanc, a ni ddylen nhw orfod wynebu colli eu tad mewn amgylchiadau mor drist.”
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Matt Davies: "Mae'r achos hwn yn tynnu sylw at effaith ddinistriol trais ar deuluoedd a chymunedau.
“Mae ein meddyliau gyda holl deulu a ffrindiau Christian, yn ystod yr amser anodd hwn. Rwy’n gobeithio y bydd y dedfrydu heddiw yn cynnig rhywfaint o gyfiawnder ac yn caniatáu i'r teulu ddechrau galaru."
