'Llanast llwyr': Galw am 'reoliadau llymach' ar gwmnïau sy'n gosod systemau gwresogi gwyrdd
Fe ddylai cynllun i osod systemau gwresogi gwyrdd yn nhai pobl gael ei “adolygu ar frys,” yn ôl un o aelodau’r Senedd yn y gogledd.
Mae AS Aberconwy Janet Finch-Saunders yn dweud bod 'llanast llwyr' wedi ei adael mewn tai yn y gogledd gan rai cwmnïau sydd yn gosod systemau gwresogi fel rhan o'r cynllun ECO4.
Nod cynllun ECO4 (Energy Company Obligation) Llywodraeth y DU yw ceisio sicrhau bod systemau ynni pobl yn fwy effeithlon, a hynny yn y gobaith o leihau allyriadau carbon i’r rheiny sy’n cael trafferth fforddio eu biliau.
Mae pobl sy’n derbyn cymorth ariannol benodol, pobl all fod yn “agored i niwed”, a phobl ar incwm isel ymhlith y rheiny sy’n gymwys i dderbyn cymorth fel rhan o’r cynllun.
Mae’n cael ei ariannu ar y cyd gan gwmnïau egni a Llywodraeth y DU ac nid oes gofyn ar bobl i dalu am unrhyw waith fel rhan o’r cynllun. Ofgem sy’n gyfrifol am reoleiddio’r cynllun.
Ond mae Ms Finch-Saunders yn dweud bod angen i'r cwmnïau sy'n cael eu cyflogi drwy'r cynllun gael eu rheoleiddio'n llymach.
Mae wedi codi pryderon ar lawr y Senedd ar ôl cael gwybod gan drigolion lleol eu bod yn anfodlon gyda’r gwaith sydd wedi eu cyflawni, gyda rhai yn dweud bod eu tai bellach wedi eu difrodi.
“Mae rhai cwmnïau yn gadael pobl mewn llanast llwyr,” medd Mrs Finch-Saunders.
“Dwi wedi clywed am sawl achos erbyn hyn… Mae 'na gwmnïau sy’n cyflogi staff heb gymwysterau na’r sgiliau i gyflawni’r fath gwaith.”
Dywedodd bod rhai o’i hetholwyr yn cael eu “heffeithio’n wael” gan gyfeirio at un ddynes sydd heb unrhyw wres yn ei thŷ ers cael gwaith yno fel rhan o’r cynllun.
“Dyma arian trethdalwyr. O’m mhrofiad i, y cwmni sy’n methu’r trigolion.”
'Problemau difrifol'
Daw wedi ymchwiliad gan Newyddion S4C y llynedd ddatgelu’r ‘broblemau difrifol’ achoswyd gan waith cwmni Consumer Energy Solutions (CES), o Abertawe.
Fe wnaeth 11 o gwsmeriaid y cwmni ddweud eu bod yn anfodlon gyda’r gwaith yr oeddent wedi derbyn yn eu cartrefi.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1792865943946678469
Dywedodd CES ar y pryd eu bod yn “ymwybodol” o'r problemau ac yn “gweithio i ddod â’r materion hyn i ddatrysiad cyflym.”
Mae Mrs Finch-Saunders bellach yn galw am “reoliadau llymach” yn ogystal â sicrhau bod gweithwyr wedi’u hyfforddi er mwyn diogelu pobl eraill mewn sefyllfa debyg.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Conwy eu bod dim ond yn “ymwneud â’r cynllun ar gyfer gwaith gweinyddol” a hynny’n cynnwys asesu tystiolaeth aelwydydd a chymeradwyo ceisiadau pobl.
Dywedodd y dylai pobl gwirio’r cwmnïau ar wefan TrustMark cyn rhoi caniatâd iddynt gyflawni gwaith yn eu tai.
Dylai pobl sydd â chwynion gysylltu â TrustMark yn uniongyrchol, meddai.
Roedd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud mai cynllun Llywodraeth y DU ydy ECO4 ac roedd yn argymell pobl i gwyno i Ofgem drwy wefan TrustMark yn ogystal.
Dywedodd llefarydd o adran Diogelwch Ynni a Sero Net Llywodraeth y DU nad oes modd iddynt roi sylw ar achosion unigol. Dywedodd hefyd y dylai pobl gysylltu â TrustMark er mwyn dod o hyd i ddatrysiad.
Mae Ofgem wedi cael cais am ymateb.