Rygbi: ‘Cyfnod newydd’ i Gymru wrth i’r Gwyddelod ymweld â Chaerdydd
Fe fydd tîm rygbi Cymru yn dechrau ar ‘gyfnod newydd’ wrth groesawu Iwerddon i Gaerdydd yn y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.
Wedi i ail gyfnod Warren Gatland ddod i ben yn dilyn y golled o 22-15 yn erbyn Yr Eidal, fe fydd Cymru yn gorffen y bencampwriaeth gyda Matt Sherratt wrth y llyw dros dro.
Wrth edrych ymlaen at herio pencampwyr y llynedd, mae Sherratt wedi pwysleisio’r angen i Gymru ddod o hyd i’w “hunaniaeth” fel tîm.
“Tase Iwerddon yn chwarae y tu allan nawr, ac yn gwisgo crysau lliw gwahanol, byddwn i’n gallu dweud o fewn pum munud mai Iwerddon oedden nhw.
“Allwch chi weld y ffordd maen nhw’n chwarae, gyda’u siâp a’r symudiad y bêl ymysg y blaenwyr. I ni, ein her fel carfan Cymru yw gwneud yn siŵr ein bod ni’n sefyll dros rywbeth a gyda hunaniaeth sy’n hawdd i’w weld.”
Fe wnaeth yr hyfforddwr dros dro, sy’n hyfforddwr llawn amser ar Gaerdydd, alw tri chwaraewr i’r garfan yn gynharach yr wythnos hon, ac fe fydd y tri yn rhan o’r 23 fydd yn herio tîm Simon Easterby yn Stadiwm Principality.
Bydd Gareth Anscombe yn dechrau yn y crys rhif 10, gyda’r canolwr Max Llywelyn yn dechrau yng nghanol cae. Bydd y trydydd aelod newydd, Jarrod Evans yn dechrau ar y fainc.
Bydd asgellwr y Scarlets, Ellis Mee, yn ennill ei gap cyntaf dros Gymru.
Mae hyfforddwr Iwerddon Simon Easterby wedi gwneud sawl newid i’w dîm ar gyfer y gêm. Yn dilyn anafiadau i’r capten Caelan Doris a’r bachwr Ronan Kelleher, fe fydd Dan Sheehan yn arwain y tîm gyda Jack Conan yn cychwyn fel wythwr.
Yr ymwelwyr yw’r ffefrynnau clir i ennill y gêm, ac mi fydd y Gwyddelod yn anelu i wella ar eu buddugoliaeth orau erioed dros Gymru, sef canlyniad 54-10 yn 2002.
'Penbleth' Cymru ar ben
Mae cyn gapten Cymru a sylwebydd S4C, Gwyn Jones, yn dweud bod Cymru yn dîm “bregus” ond ei fod yn obeithiol y byddant yn dangos newidiadau yn eu dull o chwarae.

“Mae wedi siarad lot am dimau gyda hunaniaeth, nodweddion cyfarwydd sydd yn creu patrymau cyson yn eu chwarae.
“Mae Sherratt yn credu mewn cynllun sydd angen lefel sgil uchel, gyda’r bêl yn symud yn glou a chydchwarae rhwng y cefnwyr a’r olwyr.
“Ond mae unrhyw gysyniad rhamantus y bydd gyrfa Sherratt gyda Chymru yn cychwyn gyda buddugoliaeth yn gwbl annoeth.
"Fe fydd y gwirionedd o chwarae rygbi rhyngwladol i’w weld yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn yn nhîm Iwerddon, sydd yn edrych yn debygol iawn o sicrhau’r gamp lawn.”
Fe ychwanegodd: “Byddwn i ddim yn dweud bod yna deimlad o optimistiaeth am y gêm y penwythnos hwn ond mae yna deimlad y bydd pethau’n llai diflas i'w gwylio.
Inline Tweet: https://twitter.com/S4Cchwaraeon/status/1892568446417707109
“Roedd Cymru mewn penbleth am y flwyddyn ddiwethaf ac o leiaf fe fydd y sefyllfa yn wahanol y penwythnos hwn.
“Dywedodd Gatland ei fod yn teimlo’n bryderus cyn ei gemau olaf wrth y llyw. Rwy'n gwybod sut mae'n teimlo, roedd tua 80,000 ohonom yn y stadiwm yn teimlo'r un ffordd.
“Rwy’n siŵr y bydd hanes yn garedig iawn i Warren Gatland a’i amser gyda Chymru.
“Ond mae’n bryd symud ymlaen, a chyfnod newydd yn rygbi Cymru yn dechrau yn erbyn Iwerddon y penwythnos yma.”
Fe fydd Cymru v Iwerddon i’w gweld yn fyw ar S4C a S4C Clic am 13.30 ddydd Sadwrn.
Llun: Asiantaeth Huw Evans