Agor cwest i farwolaeth dyn yn Llanelwy ar Ddydd Nadolig

Llanelwy

Mae cwest wedi clywed fod dyn 68 oed a fu farw ar ôl dioddef ymosodiad honedig ar Ddydd Nadolig wedi marw o ganlyniad i anaf posib i'w ben.

Dywedodd y Crwner John Gittins fod y Gwasanaeth Ambiwlans wedi derbyn galwad gan James Hughes yn fflatiau'r Hen Balas, ger Stryd Fawr Llanelwy wrth ymyl yr eglwys gadeiriol yn y ddinas, yn dweud bod ei gymydog ar y llawr mewn coridor ac yn anymwybodol.

Aeth swyddogion yr heddlu i'r adeilad gan geisio adfywio Harold Turner cyn iddo gael ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan. 

Bu farw Mr Turner yn ddiweddarach.

Wrth agor y cwest i'w farwolaeth yn Rhuthun ddydd Llun, dywedodd Mr Gittins: "Mae achos y farwolaeth wedi'i ohirio ar hyn o bryd."

Ychwanegodd: "Rwyf wedi derbyn gohebiaeth gan y rhai sy'n cynrychioli Mr Hughes yn gofyn am ail archwiliad post-mortem. Rwyf wedi rhoi caniatâd."

Mae James Hughes, 66, wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth.

Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn i'r awdurdodau gwblhau eu hymchwiliadau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.