Y cyn-ganghellor Ceidwadol Nadhim Zahawi yn ymuno â Reform UK
Mae cyn-ganghellor y Ceidwadwyr, Nadhim Zahawi, wedi ymuno gyda phlaid Reform UK, yn ôl cyhoeddiad gan y blaid.
Dywedodd y cyn-aelod seneddol, a arweiniodd raglen frechu’r llywodraeth Geidwadol ar ddechrau pandemig Covid-19, fod Prydain "wir angen Nigel Farage fel prif weinidog”.
Cyhoeddodd Mr Zahawi ei benderfyniad i ymuno â Reform mewn cynhadledd i’r wasg yng nghanol Llundain ddydd Llun, lle ymddangosodd ochr yn ochr ag arweinydd Reform UK, Mr Farage.
Mynnodd Mr Farage fod cam un o aelodau amlycaf y Ceidwadwyr yn y cyfnod diweddar wrth ymuno gyda'i blaid wedi helpu i chwalu unrhyw awgrym bod Reform UK yn “fand un dyn”.
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr mewn ymateb i'r cyhoeddiad: “Mae Reform yn gyflym yn dod yn blaid o wleidyddion blaenorol sy’n chwilio am eu trên grefi nesaf.
“Arferai eu recriwt diweddaraf ddweud y byddai ‘ofn byw mewn gwlad’ oedd yn cael ei rhedeg gan Nigel Farage, sy’n dangos lefel y teyrngarwch sydd ar werth.
“Mae Reform eisiau gwariant lles uwch a threthi uwch. Maent yn fand un dyn heb gynllun ar gyfer ein gwlad.
“O dan Kemi Badenoch mae’r Ceidwadwyr yn dangos bod gennym y cynllun, y cymhwysedd a’r tîm i gael Prydain i weithio eto.”
Llun: PA
