Apêl am wybodaeth am fenyw o America allai fod yng Nghaerdydd
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth gan y cyhoedd wrth geisio dod o hyd i fenyw o'r Unol Daleithiau sydd heb ei gweld ers mis Tachwedd 2025.
Mae gan Tana Garner, 59, gês dillad wedi'i glymu â rhaff ac mae'n debygol ei bod yn ardal Caerdydd meddai swyddogion.
Y gred yw ei bod wedi ymweld â chanol dinas Caerdydd yn aml a'i bod wedi bod yn ddigartref am gyfnod o amser.
Mae hi'n siarad ag acen Americanaidd gref ac mae'n bosibl ei bod wedi teithio i rywle arall yn y DU, o bosibl i Windsor.
Mae ymholiadau'r heddlu wedi cadarnhau nad yw wedi gadael y DU ers cyrraedd ym mis Mehefin 2025.
Mae'r heddlu'n gofyn i Tana i gysylltu i gadarnhau ei bod yn ddiogel ac yn iach ac yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am ei lleoliad i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2600002657.