Ceredigion: 35 mlynedd o garchar i ddyn am geisio lladd ei ferch fach

Rhydian Jamieson

Mae dyn o Geredigion wedi cael ei garcharu am 35 mlynedd am geisio lladd ei blentyn.

Roedd Rhydian Jamieson, 27 oed, o Gwm Cou ger Castell Newydd Emlyn wedi pledio'n euog i geisio llofruddio'r ferch fach mewn gwrandawiad blaenorol.

Fe glywodd Llys y Goron Abertawe fod Jamieson wedi "gwylltio" ac wedi taflu'r baban at deledu ym mis Ionawr y llynedd.

Fe roddodd y babi o dan flanced a ffoi o'r tŷ ym mhentref Y Ferwig. Galwodd ffrind ar Snapchat a dywedodd ei fod wedi lladd y babi, gan ddweud: "Mae ar ben arna'i, mae ar ben arna'i".

Dywedodd mam y babi wrth yr heddlu fod ganddi nifer o alwadau wedi’u methu ar ei ffôn gan y diffynnydd, a’i fod wedi anfon negeseuon llais ati yn dweud "rwyt ti'n mynd i fy nghasáu i.

"Doeddwn i ddim yn bwriadu, mae’n ddrwg gen i," ac yna "Dydw i ddim yn gwybod a yw hi’n dal i anadlu … Dydw i ddim yn gwybod, gadewais i hi, beth ydw i wedi’i wneud? Iesu."

Aeth y fam i'w chartref yn syth ar ôl clywed y negeseuon, a dechreuodd chwilio am ei phlentyn, cyn ei darganfod wyneb i lawr ar wely o dan flanced. 

Roedd y babi yn anadlu, ond roedd ganddi anafiadau gweladwy.

'Dioddefaint'

Cafodd yr heddlu eu galw i bentref Y Ferwig a dod o hyd i'r ferch fach gydag anafiadau difrifol.

Roedd gan y baban gleisiau dros ei hwyneb ac fe gafodd ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol gan gynnwys gwaedu ar yr ymennydd.

Fe fydd hi angen gofal am weddill ei bywyd o ganlyniad i'w hanafiadau.

Llai na hanner awr ar ôl i’r heddlu gael yr alwad gyntaf, roedd swyddogion wedi dod o hyd i ac arestio Jamieson ar amheuaeth o ymosodiad gan achosi niwed corfforol difrifol ac esgeulustod. 

Wrth gael ei hebrwng i’r ddalfa, dywedodd ‘Alla i ddim credu fy mod i wedi ceisio lladd fy merch."

Ni wnaeth Jamieson fynychu'r gwrandawiad dedfrydu ddydd Llun.

Wrth siarad am effaith y digwyddiad, dywedodd mam y babi: “Mae’r hyn sydd wedi digwydd wedi newid fy mywyd i a bywyd fy merch am byth, yn ogystal â chael effaith enfawr ar fy nheulu cyfan.

“Rwyt ti wedi achosi poen a dioddefaint anferth i ni i gyd.

“Rwy’n byw bob dydd heb wybod a fydd hi’n gallu cerdded, siarad, dysgu’n iawn neu fyw bywyd annibynnol,” ychwanegodd y fam. “Mae’r ansicrwydd yn annioddefol.

“Yn lle mwynhau blwyddyn gyntaf bywyd fy merch, rydw i nawr yn treulio bob dydd yn poeni am yr hyn sydd gan y dyfodol i’w gynnig."

'Gweithred erchyll'

Dywedodd y Prif Dditectif Arolygydd Gary Williams, o Heddlu Dyfed-Powys yn dilyn y ddedfryd: “Roedd hon yn weithred erchyll o drais tuag at fabi diamddiffyn – ei ferch ei hun – a oedd wedi’i gadael yng ngofal Jamieson.

“Dydyn ni dal ddim yn gwybod beth wnaeth iddo ymddwyn fel hyn – beth wnaeth iddo ‘snapio’, i ddefnyddio ei air ei hun – ond hyd yn oed pe bai wedi datgelu’r catalydd ar gyfer yr ymddygiad ffiaidd hwn, ni fyddai wedi ei esgusodi mewn unrhyw ffordd.

“Mae teulu’r babi wedi cael eu llorio ers yr ymosodiad ffiaidd ar Ionawr 15, gan dreulio cryn dipyn o amser yn yr ysbyty, a dioddef misoedd o bryder wrth iddynt aros i ddarganfod beth fydd effaith hirdymor ei hanafiadau.

“Hoffwn eu canmol am eu cryfder a’u cydweithrediad drwy gydol ymchwiliad yr heddlu, yn ogystal â’r nifer o swyddogion a staff sydd wedi gweithio’n ddiflino i ddwyn Jamieson gerbron y llys.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.