Rhoi'r gorau i chwilio am ddyn aeth ar goll yn Afon Teifi
Mae’r ymdrech o chwilio am ddyn aeth ar goll yn Afon Teifi yng Ngheredigion wedi dod i ben ar ôl i’r heddlu “wneud popeth" i ddod o hyd iddo.
Fe wnaeth y gwasanaethau brys gael gwybod bod dyn wedi mynd i’r dŵr yn Aberteifi am tua 05.15 ar fore Sul, 4 Ionawr.
Dywedodd Heddlu-Dyfed Powys brynhawn Llun eu bod nhw bellach yn hyderus eu bod nhw wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i ddod o hyd i Kurtis Brooks, 30 oed, a oedd yn hanu o'r dref.
“Er bod hwn yn benderfyniad hynod o anodd, rydym yn hyderus ein bod ni wedi gwneud popeth yr oedd yn bosibl i ni ei wneud i geisio dod o hyd i Kurtis, ac mae teulu Kurtis wedi cael gwybod am y penderfyniad hwn,” meddai’r Ditectif Uwch-arolygydd Richard Yelland.
Ychwanegodd: “Byddwn yn parhau i ymateb i unrhyw wybodaeth newydd a allai arwain at ddod o hyd i Kurtis.
“Hoffwn estyn fy niolch i’r gymuned yn Aberteifi sydd, o’r cychwyn cyntaf, wedi cefnogi’r holl asiantaethau sydd wedi bod rhan o’r ymchwiliad hwn.
“Mae hyn yn dangos pa mor agos yw’r gymuned yn Aberteifi, ac rydym yn gwybod bod y teulu wedi cael cysur o wybod faint o gefnogaeth sydd ganddynt.”
Mae'r heddlu ynghyd â gwasanaethau eraill, gan gynnwys y Gwasanaeth Tân ac Achub, Gwylwyr y Glannau a’r Bad Achub, wedi bod yn chwilio Afon Teifi yn ystod y cyfnod ers i Mr Brooks fynd ar goll.