Teyrngedau i chwaraewr pêl-droed o Sir Conwy yn dilyn ei farwolaeth
Mae Clwb Pêl-droed Llannefydd wedi rhoi teyrnged i chwaraewr "annwyl" wedi iddo farw yn 23 oed.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sadwrn, dywedodd y clwb o Sir Conwy: "Rydym yn hynod drist i rannu’r newyddion torcalonnus fod ymosodwr CPD Llannefydd, Morgan Jones, wedi colli ei fywyd yn drasig wythnos diwethaf yn 23 oed.
"Roedd Morgan yn gyd-chwaraewr gwerthfawr ac yn aelod annwyl iawn o’n clwb."
Ychwanegodd y clwb bod eu meddyliau gyda'i deulu a'i ffrindiau.
"Gorffwys mewn heddwch, Morgan," ychwanegodd y datganiad.
"Byddi wastad yn rhan o CPD Llannefydd."
Ar gyfryngau cymdeithasol, mae nifer o glybiau pêl-droed y gogledd wedi cymdymdeimlo â theulu Morgan a Chlwb Pêl-droed Llannefydd.
Dywedodd Clwb Pêl-droed Bae Cinmel: "Mae ein meddyliau a chydymdeimladau dwysaf gyda theulu a ffrindiau Morgan, a phawb sydd wedi eu heffeithio gan y golled drasig yn ystod y cyfnod anodd tu hwnt yma.
"Fe fyddwn yn cofio'n annwyl am Morgan, ac fe fydd yn parhau yn fyw yng nghalonnau pawb oedd yn ei adnabod."
Ychwanegodd CPD Y Glannau: "Mae Y Glannau mor drist o glywed y newyddion yma ac yn anfon ein cydymdeimladau i deulu Morgan a phawb yng nghlwb Llannefydd."
