Chwe gwystl Israelaidd wedi eu rhyddhau yn Gaza
Mae chwech o wystlon Israelaidd wedi eu rhyddhau gan Hamas.
Cafodd dau eu rhyddhau ben bore, sef Avera Mengistu, a gafodd ei gipio gan Hamas yn 2014, a Tal Shoham.
Cafodd y ddau eu trosglwyddo i'r Groes Goch yn ninas Rafah, gyda'r gwystlon yn cael eu gosod ar lwyfan o flaen camerâu, cyn y broses drosglwyddo.
Yn ddiweddarach fore Sadwrn, cafodd tri gwystl eu rhyddhau yng ngwersyll ffoaduriaid Nuseirat yng nghanol Gaza.
Unwaith eto, fe ymddangosodd y tri ar lwyfan gyda dynion arfog wrth eu hymyl.
Omer Wenkert, 23 oed, Eliya Cohen, 27 oed, ac Omer Shem Tov, 22 oed yw'r tri, ac maen nhw hefyd wedi eu trosglwyddo i ofal y Groes Goch.
Cafodd y chweched gwystl, Hisham al-Sayed, ei ryddhau brynhawn Sadwrn heb "seremoni gyhoeddus".
Fel rhan o'r cytundeb cadoediad, roedd disgwyl i Israel hefyd ryddhau 602 o garcharorion Palesteinaidd.
Ond mae hynny wedi cael ei ohirio am y tro, yn ôl Y Ganolfan Wybodaeth Balesteinaidd sy’n cyhoeddi datganiadau swyddogol Hamas.
Nid yw'n glir ar hyn o bryd pa mor hir fydd yr oedi.
Daw'r datblygiadau diweddaraf wedi tensiynau rhwng yr Israeliaid a Hamas ar ôl i Israel ddweud nad corff Shiri Bibas a gafodd ei drosglwyddo iddyn nhw gan Hamas yn gynharach yr wythnos hon, fel yr addewid.
Cafodd hi a'i meibion ifanc eu lladd ar ôl cael eu cipio yn ystod ymosodiad 7 Hydref 2023.
Mae Hamas wedi cydnabod mai corff dynes arall a gafodd ei ryddhau, gan ddweud mai camgymeriad oedd hynny.
Mae corff Shiri Bibas bellach wedi ei drosglwyddo gan Hamas, yn ôl ei theulu. Digwyddodd hynny ddydd Gwener.
Y rhyddhau ddydd Sadwrn yw'r olaf yn y cam cyntaf hwn o'r cytundeb cadoediad rhwng Israel a Hamas, a ddaeth i rym ar 19 Ionawr.