Newyddion S4C

Rhagflas o gemau dydd Sadwrn y Cymru Premier JD

Sgorio
Caernarfon

Caernarfon (5ed) v Pen-y-bont (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30

Ar ôl treulio rhan helaeth o’r tymor ar gopa’r gynghrair bydd Pen-y-bont yn benderfynol o orffen yr ymgyrch yn yr ail safle, yn y gobaith o selio lle’n Ewrop ac osgoi’r gemau ail gyfle.

Y Bala (0pt) yw’r unig glwb yn y gynghrair i gipio llai o bwyntiau na Pen-y-bont (1pt) yn eu tair gêm ers yr hollt, ac mae’r hyder yn isel yng ngharfan Rhys Griffiths sydd ond wedi sgorio un gôl mewn tair gêm.

Cynnal momentwm yw’r nod i Gaernarfon, a dyw’r 3ydd safle ddim rhy bell o afael y Cofis fydd yn ceisio gorffen mor uchel a phosib er mwyn cael mantais yn y gemau ail gyfle.

Pen-y-bont enillodd y ddwy ornest rhwng y timau yn rhan gynta’r tymor gan chwalu’r Cofis o 5-1 ar eu hymweliad diwethaf â’r Oval ym mis Tachwedd.

Mae bechgyn Bryntirion wedi ennill chwech o’u saith gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon, gyda unig fuddugoliaeth y Caneris yn ystod y rhediad hwnnw yn dod yn rownd derfynol y gemau ail gyfle y tymor diwethaf (Cfon 3-1 Pen).

Record cynghrair diweddar: 

Caernarfon: ✅✅✅➖❌

Pen-y-bont: ͏✅✅❌➖❌

CHWECH ISAF

Aberystwyth (12fed) v Y Drenewydd (11eg) | Dydd Sadwrn – 12:15 (Yn fyw ar-lein)

Mae Aberystwyth a’r Drenewydd wedi bod yn aelodau di-dor o Uwch Gynghrair Cymru ers 1992, ond mae’r ddau glwb o’r canolbarth mewn perygl o syrthio i’r ail haen eleni.

Mae Aberystwyth mewn sefyllfa beryglus eithriadol, wyth pwynt o dan diogelwch y 10fed safle gyda dim ond saith gêm ar ôl i’w chwarae.

Dyw’r ddau glwb dim ond wedi ennill pump o’u 25 gêm gynghrair hyd yma, ond y Gwyrdd a’r Duon sydd ar waelod y tabl ar ôl sgorio llai ac ildio mwy na phawb arall (sgorio 22, ildio 59).

Dyw rheolwr newydd y Robiniaid, Callum McKenzie yn bendant heb gael y dylanwad delfrydol ar y garfan gan i’r Drenewydd ennill dim ond dau bwynt allan o’r 30 posib yn y 10 gêm ers ei benodiad ym mis Tachwedd.

Dyw’r Drenewydd ond wedi ennill un o’u 19 gêm ddiwethaf (Cfon 1-2 Dre), ac mae’r clwb mewn perygl o syrthio o’r uwch gynghrair am y tro cyntaf erioed.

Enillodd Y Drenewydd o 4-1 gartref yn erbyn Aberystwyth ar benwythnos agoriadol y tymor, cyn i’r Gwyrdd a’r Duon dalu’r pwyth yn ôl ym mis Tachwedd gan ennill o 3-1 ar Goedlan y Parc.

Mae’r Drenewydd wedi ennill chwech o’u wyth gornest ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth, ond hon yw’r gêm ddarbi bwysicaf i’r ddau glwb ers blynyddoedd lawer.

Record cynghrair diweddar: 

Aberystwyth: ͏❌❌❌✅❌

Y Drenewydd: ͏ ❌❌➖❌➖

Y Barri (7fed) v Cei Connah (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae’r Barri wedi mynd ar rediad cryf o bum gêm heb golli (ennill 2, cyfartal 3) ac mae tîm Andy Legg wyth pwynt yn glir o Gei Connah yn y frwydr i gyrraedd y gemau ail gyfle.

Mae Cei Connah ar y llaw arall wedi colli pump o’u chwe gêm gynghrair ddiwethaf a bydd Billy Paynter yn teimlo bod rhaid i’w dîm ennill ar Barc Jenner os am unrhyw obaith gwirioneddol o gystadlu am y 7fed safle.

Un cysur i Gei Connah yw eu bod wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Cymru, ac fe all y Nomadiaid sicrhau lle’n Ewrop pe bae nhw’n codi’r tlws am yr ail dymor yn olynol.

Dyw’r Barri heb chwarae’n Ewrop ers haf 2020, ond gyda’r blaenwr Ollie Hulbert ‘nôl yn holliach, mi fyddai’r crysau melyn yn beryglus yn y gemau ail gyfle.

Mae’r Barri wedi curo Cei Connah ddwywaith yn barod y tymor hwn, a byddai triphwynt arall i’r Dreigiau ddydd Sadwrn yn eu codi 11 pwynt yn glir o’r Nomadiaid yn y ras am y 7fed safle.

Record cynghrair diweddar: 

Y Barri: ➖➖✅✅➖

Cei Connah: ͏ ❌❌❌✅❌

Y Fflint (9fed) v Llansawel (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Un pwynt sy’n gwahanu’r Fflint a Llansawel, sef y ddau dîm i esgyn i’r uwch gynghrair yr haf diwethaf, a’r targed i’r ddau glwb eleni oedd sicrhau nad oedden nhw’n syrthio’n syth yn ôl i’r ail haen.

Ar hyn o bryd mae pethau’n edrych yn addawol i’r clybiau, ond byddai buddugoliaeth i’r naill glwb neu’r llall ddydd Sadwrn yn gam mawr tuag at gadarnhau eu lle yn y gynghrair ar gyfer y tymor nesaf.

Mae’r Fflint mewn brwydr i osgoi’r cwymp gyda tri o glybiau eraill, ond dyw’r Sidanwyr heb golli yn eu saith gêm yn erbyn y clybiau rheiny y tymor hwn (curo Aberystwyth deirgwaith, Y Drenewydd ddwywaith a cipio 4pt yn erbyn Llansawel).

Mae tîm Lee Fowler wedi ennill eu pum gêm gartref ddiwethaf gan ildio dim ond dwy gôl yn ystod y rhediad hwnnw.

Ond mae Llansawel wedi perfformio’n safonol oddi cartref yn ddiweddar gan golli dim ond un o’u pum gornest ddiwethaf oddi cartref (ennill 3, cyfartal 1).

Record cynghrair diweddar: 

Y Fflint: ͏✅❌✅❌✅

Llansawel: ❌✅➖❌✅

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.