Dyn o Ddeganwy yn meddwl ei fod yn mynd i farw wrth aros 44 awr ar goridor yn ysbyty
Dyn o Ddeganwy yn meddwl ei fod yn mynd i farw wrth aros 44 awr ar goridor yn ysbyty
Mae dyn 68 oed o Ddeganwy yn dweud roedd e’n poeni bod e’n mynd i farw ar ôl treulio 44 awr ar goridor yn Ysbyty Glan Clwyd.
Aeth Steve Jones i adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Glan Clwyd ym mis Hydref 2025 ar ôl profi poen difrifol yn ei stumog.
Ar ôl cael ei weld gan dîm ‘triage’ yr ysbyty, cafodd Steve ei roi ar gadair mewn coridor.
“Mae'n anghredadwy beth sy'n digwydd yno. Ges i sioc.”
“Roedd e fel warzone. Ro’n i'n meddwl ‘mod i'n mynd i farw. Roedd e’n frawychus.”
Mae ffigyrau Y Byd ar Bedwar yn datgelu bod bron i 89,000 o gleifion wedi cael eu trin ar goridorau neu mewn amgylcheddau anghlinigol eraill yn ysbytai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr o 2022 i ddiwedd Hydref 2025.
Ar gyfartaledd, buodd cleifion yn derbyn gofal mewn coridorau am bron i 10 awr yn Ysbyty Glan Clwyd y llynedd - yr amser cyfartalog hiraf o holl ysbytai’r gogledd. Ond y cyfnod hiraf wnaeth un claf aros ar goridor oedd yn Ysbyty Gwynedd, yn 2024, a hynny am dros bum niwrnod.
Roedd partner Steve, Haf Poole, yn Ysbyty Glan Clwyd gydag e drwy’r profiad cyfan. Yn gyn-nyrs, roedd Haf yn gweithio yn Ysbyty Maelor Wrecsam tan iddi ymddeol yn 2020. Mae hi’n dweud nad oedd Steve yn derbyn y gofal cywir ar y coridor.
“[Dydy o] ddim yn saff ar y coridor. Doedd dim monitors, dim drip stands - dim byd. O’n i’n teimlo dylsa bod o mewn ciwbicl ar ben ei hun hefo un nyrs.”
Ar ôl treulio dau ddiwrnod yn yr ysbyty ar ddrip ac yn derbyn gwrthfiotigau fe wnaeth doctor ddweud wrtho y byddai’n cael mynd adref meddai Steve. Yn ôl Haf, doedd Steve ddim yn ddigon da i adael yr ysbyty, a mynnodd y ddau y byddai Steve yn aros yno.
Yn dilyn hyn, cafodd Steve sgan, diagnosis, a gwely ar ward dros nos. Ar ei drydydd diwrnod yn yr ysbyty, cafodd Steve lawdriniaeth i dynnu ei goden fustl (gallbladder) a oedd wedi byrstio ac wedi troi’n fadreddog (gangrenous).
Yn ôl Haf, roedd y llawfeddyg wedi synnu.
“Oedd o’n dweud [mai hyn] oedd y gallbladder gwaethaf iddo weld ers blynyddoedd.”
Mae Haf yn dweud petai Steve wedi mynd gartre’ cyn cael llawdriniaeth, mae’n bosib iawn y byddai wedi “marw o sepsis.”
Mae’r profiad wedi ysgwyd ffydd Steve yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
“Mae wedi fy ysgwyd yn sicr, a bydden i'n ofni mynd yn ôl yno. Mae'n drueni oherwydd mae'r gwasanaeth [y GIG] yn wych, ond mae wedi torri.”
“Mae angen mwy o nyrsys un-i-un arnyn nhw, oherwydd o’n i'n teimlo ar fy mhen fy hun yn eistedd yno. [Mae angen] mwy o frys wrth wneud pethau.”
Ymateb
Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
"Rydym yn cydnabod bod gormod o gleifion yn aros yn hirach nag y dylent yn ein hadrannau achosion brys, ac y gall hyn beri gofid i gleifion, eu teuluoedd ac i'r staff sydd am gynnig gofal yn yr amgylchedd cywir.
"Mae cynnig gofal gydag urddas, trugaredd a pharch yn hollbwysig i ni, ac rydym yn cydnabod y gofid a'r pryder sy'n cael eu hachosi pan fydd cleifion yn cael eu trin mewn coridorau.
"Yn debyg i sefydliadau'r GIG ledled y Deyrnas Unedig, rydym yn profi galw sylweddol am ofal brys a gofal argyfwng a heriau o ran rhyddhau cleifion mewnol o'r ysbyty yn brydlon. Ar adegau, mae hyn yn golygu bod yn rhaid i rai cleifion aros yn hirach i gael eu gweld, derbyn triniaeth, ac i gael eu derbyn i’r ysbyty.
"Yn anffodus, mae rhai cleifion yn derbyn gofal mewn mannau sydd heb eu dynodi at y pwrpas neu mewn coridorau. Rydym wedi rhoi goruchwyliaeth glinigol ychwanegol ar waith er mwyn helpu i sicrhau bod cleifion yn ddiogel, ond rydym yn gwybod y gall hyn fod yn brofiad cynhyrfus i gleifion, eu teuluoedd a'n staff.
"Mae'n ddrwg iawn gennym ni am unrhyw un sydd wedi profi arosiadau hir neu sydd wedi derbyn gofal yn yr amgylchiadau hyn.
"Gwella profiad cleifion yn ein hadrannau achosion brys, a chynorthwyo ein staff i gynnig y gofal gorau posibl, yw blaenoriaeth bennaf y Bwrdd.
"Gan weithio'n agos gyda'n partneriaid mewn awdurdodau lleol, rydym yn rhoi rhaglen wella sylweddol ar waith ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn gwella llif cleifion trwy ein hysbytai, gan gynnwys rhyddhau'n ddiogel.
"Rydym hefyd yn dysgu o arfer gorau gyda thîm o arbenigwyr allanol sy'n gweithio yn y bwrdd iechyd gan ddod â phrofiad o bob rhan o'r DU.
"Er gwaethaf amgylchiadau heriol, mae staff yn ein hadrannau achosion brys ac ar draws y Bwrdd Iechyd, yn cynnig gofal argyfwng arbenigol o fore gwyn tan nos, 24 awr y dydd. Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o'r cyhoedd yn eu parchu ac yn eu cefnogi o ran gwneud y gwaith hynod bwysig hwn."
Dywedodd Llywodraeth Cymru:
"Rydym yn glir nad yw’n dderbyniol i ddarparu gofal mewn lleoliadau anghlinigol neu anaddas. Mae'n peryglu urddas cleifion, diogelwch a lles staff, ac rydym yn benderfynol o roi terfyn ar yr arfer hwn trwy ddiwygio ar draws y system.
"Rydym wedi gosod tîm ymyrraeth profiadol yng Ngogledd Cymru i gefnogi'r bwrdd iechyd i wella profiad a chanlyniadau cleifion, fel rhan o'r broses mesurau arbennig lefel 5.
"Rydym hefyd wedi ymrwymo £200 miliwn ychwanegol ledled Cymru i reoli staffio, gofal brys yr un diwrnod, a gwasanaethau cymunedol yn well, gyda £2.7 miliwn arall yn benodol ar gyfer Betsi Cadwaladr i leihau'r pwysau ar adrannau brys.
"Rydym yn parhau i drafod pryderon sy'n ymwneud â phrofiad cleifion a diogelwch cleifion a’r gweithlu yn uniongyrchol gydag uwch arweinwyr y bwrdd iechyd a byddwn yn parhau i ddal y bwrdd iechyd i gyfrif trwy drefniadau goruchwylio sefydledig."
Gwyliwch Y Byd ar Bedwar: Gofal ar Goridorau - nos Lun, 20:00, ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.
