Newyddion S4C

'Un o brofiadau gwaethaf fy mywyd’: Cwynion am ‘broblemau difrifol’ gwaith cwmni gwresogi cenedlaethol

21/05/2024

'Un o brofiadau gwaethaf fy mywyd’: Cwynion am ‘broblemau difrifol’ gwaith cwmni gwresogi cenedlaethol

Mae cwsmeriaid cwmni o Abertawe sydd yn gosod systemau gwresogi gwyrdd yn dweud bod gwaith y cwmni ar eu cartrefi wedi cael “effaith sylweddol ar eu hiechyd”.
 
Mae ymchwiliad gan Newyddion S4C wedi siarad gyda 11 o gwsmeriaid cwmni Consumer Energy Solutions ar draws Cymru a Lloegr, sydd yn anfodlon gyda’r gwaith y maent wedi ei dderbyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf. 
 
Ymhlith y bobl sydd wedi rhannu eu profiadau gyda Newyddion S4C, mae nifer ohonynt gydag anghenion iechyd dwys, anableddau, neu’n oedrannus. 
 
Dywedodd sawl un o’r bobl fod eu profiadau wedi cael effaith ar eu hiechyd meddwl ac iechyd corfforol. Mae un unigolyn wedi dweud wrth Newyddion S4C ei fod wedi teimlo yn “suicidal” yn dilyn ei brofiad.
 
Mae Aelodau Seneddol hefyd wedi derbyn cwynion niferus gan bobl sydd wedi derbyn gwaith gan Consumer Energy Solutions (CES).
 
Image
Logo CES
Yn ôl  CES maen nhw’n  “ymwybodol” o'r problemau ond nad yw’n “briodol gwneud sylwadau” ar achosion penodol yr unigolion sydd wedi siarad gyda Newyddion S4C. Maent hefyd yn dweud eu bod yn “gweithio i ddod â’r materion hyn i ddatrysiad cyflym.”
 
Mae’r bobl sydd yn cwyno wedi derbyn y gwaith am ddim drwy gynllun ECO4 Llywodraeth y DU, a hynny ar sail iechyd, oedran, incwm neu er mwyn gwella effeithlonrwydd egni eu cartrefi.
 
Dyma’r hyn oedd gan rai o’r bobl wnaeth siarad gyda Newyddion S4C i’w ddweud: 
 

Mae gen i ganser cam 3, sydd yn cyfyngu ar fy mywyd. Doedden ni ddim eisiau hyn ar ben bopeth arall.” - Beverley Scott, Llangwnnadl, Gwynedd

Image
Beverley Scott
Beverley Scott
Mae Beverley Scott yn byw gyda chanser ar yr ofari nad oes modd gwella ohono, ac yn derbyn gofal lliniarol yn Ysbyty Gwynedd. 
 
Mae ei gŵr Steve, sydd yn byw gyda chyflwr ar ei asgwrn cefn yn ofalwr llawn amser iddi.
 
Dechreuodd Consumer Energy Solutions (CES) ar  y gwaith o osod pwmp gwres a phaneli solar ac insiwleiddio waliau yn eu cartef ym mis Ebrill 2023. 
 
Yn ôl Beverley, daeth problemau yn ystod y cyfnod o ail-blastro’r tŷ a gosod y pwmp gwres.
 
Er sawl rhybudd i beidio, cafodd gwifrau wi-fi y tŷ eu dinistrio ar ôl cael eu tynnu allan o’r wal gan drydanwr, meddai. O ganlyniad nid oedd y rhyngrwyd yn gweithio am sawl wythnos, gan gynnwys botwm coch sydd ei angen ar Ms Scott i gysylltu â’r gwasanaethau brys mewn argyfwng meddygol.
 
Roedd yn rhaid i’r cwpwl symud eu matresi i’r ystafell fyw i gysgu yn agos i’r lle tân am bron i fis, gan nad oedd gwres na dŵr poeth yn gweithio yn y tŷ, medden nhw.  
Image
Stafell Beverley Scott1
Roedd yn rhaid i Beverley Scott a'i gŵr gysgu yn yr ystafell fyw am bron i fis

 

Fe ddywedon nhw hefyd ar ôl ymgais gan weithwyr CES i drwsio’r system wresogi, nad oedd modd ei ddiffodd. Roedd y system yn pwmpio “drwy’r dydd a drwy’r nos” am gyfnod, gan achosi i’w biliau trydan i godi’n sylweddol.
 
“Rydych chi’n disgwyl rywfaint o anghyfleustra ond nid i'ch bywyd cyfan,” meddai Mrs Scott. 
 
“Roedd yn rhaid i ni gysgu yn yr stafell fyw gyda’r tân achos doedd na ddim gwres yma. 
 
“I adael ni heb wres na dŵr poeth, mae’n warthus.”
 
Roedd problemau gyda gosod y system wresogi hefyd wedi achosi i ddŵr lifo i lawr y waliau mewn sawl ystafell. Roedd yn rhaid galw peirianwyr gan wneuthurwyr y boeler i drwsio’r problemau gan nad oedd “y boeler wedi ei osod yn gywir” gan CES. 
 
“Roedd o’n stressful ac fe wnaeth y profiad wneud fi yn wael iawn, achos rwy’n derbyn triniaeth canser eto. Naeth o ddim daioni i’m hiechyd,” meddai Mrs Scott.
“Dw i byth eisiau profi’r fath beth eto.”
 
Fe lwyddodd Mr a Mrs Scott i hawlio miloedd o bunnoedd o gostau yn ôl gan CES drwy’r llysoedd ym mis Mai – 12 mis ers cychwyn y gwaith.
 

“Mae Consumer Energy Solutions wedi dinistrio fy mywyd.” - Richard Mac Donald, Llangwnnadl, Gwynedd 

Image
Richard Mac Donald
Mae Richard, 50 oed, yn gaeth i gadair olwyn ac wedi ei barlysu ar ôl torri ei gefn mewn damwain 22 mlynedd yn ôl. 
 
Cychwynnodd y gwaith gan CES ar ei gartref ym mis Ionawr 2023, gyda’r cwmni yn rhagweld y byddai’r gwaith yn cymryd ‘chwech i naw diwrnod’. 
 
Dros fis yn ddiweddarach, dywedodd Richard ei fod yn dal i ddisgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau, ar ôl “un broblem ar ôl y llall”.
 
Mae'n dweud iddo gael ei adael heb wres na dŵr poeth yn ei dŷ am dros wythnos, yn ganol y gaeaf, a bod y cwmni yn oedi oherwydd nad oedd gweithwyr yn cyrraedd ar y dyddiau yr oedd y cwmni wedi ei addo.
 
“Doeddan nhw ddim yn troi i fyny pan oeddan nhw i fod i,” meddai.
 
“Gesh i fy ngadael heb wres yn ystod yr wythnos oeraf yn Ionawr. Dwi’n paraplegic felly dwi angen gwres yn y tŷ.
 
 “Fe wnaeth yr holl beth fy ngwneud i’n sâl. Oherwydd fy mod i wedi fy mharlysu, dydw i ddim yn gallu rheoli tymheredd fy nghorff. Felly roedd fy nghoesau yn teimlo fel blociau o rew, mi oedd hi mor oer â hynny yma.”
 
Cafodd y tŷ ei adael mewn “uffar o lanast” yn ôl Mr Mac Donald, gyda dŵr yn llifo i lawr y waliau ar un achlysur a pheipiau yn cael eu gadael heb gladin.
Image
ECO4

 

Ond yn peri’r pryder mwyaf i Mr Mac Donald oedd y system wresogi. Ar ôl i CES ail-osod y system wresogi, doedd gwres ddim yn cael ei rannu’n effeithiol drwy’r tŷ, meddai.
 
Er hynny, roedd y pwmp gwres wedi ei osod i weithredu ar y tymheredd uchaf drwy’r dydd a nos, ac nid oedd modd ei ddiffodd o gwbwl.
 
Cafodd y broblem ei gadael am gyfnod o dros fis, gan adael Mr Mac Donald â bil trydan o £1,200 ar gyfer Ionawr a Chwefror, dros fil o bunnoedd yn fwy na’i bil arferol o £150, meddai.
 
Aeth i ddyled gyda’r cwmni trydan, a’i ddyled yn cael ei throsglwyddo i gwmni casglu dyledion. 
 
Yn y diwedd daethant i drefniant iddo dalu yn ôl yn fisol, ar ôl galwadau ffôn ‘dyddiol’ gan y cwmni cyflenwi trydan. 
 
Roedd y cyfan wedi cael effaith mawr ar iechyd Richard. 
 
“Yn y 22 mlynedd ers fy namwain, do’n i erioed wedi cael panic attack cyn i hyn ddigwydd,” meddai.
 
“Ers mis Chwefror y llynedd hyd heddiw, dwi wedi bod yn byw hefo iselder ac yn teimlo’n suicidal ar adegau. Dwi’n crio bob nos achos fy mod i’n poeni gymaint. 
 
“Dwi’n byw ar ben fy hun gyda fi nghi bach Ruby, a diolch amdani hi achos hebddi, ella na fyswn i yma rŵan.”
 

“Un o brofiadau gwaethaf fy mywyd.” - Sarah Bailey, Llanbister, Powys

Image
Sarah Bailey
Sarah Bailey
Mae Mrs Bailey wedi ymddeol o’r heddlu ar sail ei hiechyd. Dros y ddwy flynedd diwethaf fe wnaeth dreulio amser yn yr uned gofal dwys ar ôl cael sepsis. Mae hi hefyd yn byw gydag ME, a chyflyrau iechyd eraill.
 
Roedd gwaith gan CES yn eu cartref yn Llanbister wedi ei drefnu i ddechrau ar ôl i Mrs Bailey ddychwelyd adref ar ôl llawdriniaeth fis Ionawr eleni, meddai. 
 
Roedd Mrs Bailey a’i gŵr Gary wedi pwysleisio i’r cwmni ei fod yn angenrheidiol iddi hi allu ymolchi yn y bath yn ddyddiol er mwyn cadw ei briw yn lân.
 
Ond ychydig ddyddiau wedi i’r gwaith gychwyn, roedd y gwres a dŵr poeth wedi ei ddad-gysylltu, meddai, ac nid oedd modd iddi gael bath am wythnos.
 
“Roedd gen i friw agored ar ôl cael llawdriniaeth, felly mi oedd yn rhaid i mi fod yn gallu cael bath neu cawod bob dydd i’w gadw’n lan, achos mae gen i hanes o sepsis. Roedden nhw’n gwybod hyn, ond fe wnaethon nhw ein gadael ni heb ddŵr poeth am wythnos. Roedd rhaid i mi ferwi’r tecell ac ymolchi yn y sinc.”
 
Yn ddiweddarach, mae'r cwpwl yn dweud iddynt gael eu gadael heb wres na dŵr poeth am gyfnod o wythnos arall. 
 
Ar un achlysur, fe wnaeth 150 litr o ddŵr poeth ddechrau llifo i lawr waliau a thrwy’r tô a gosodidau goleuadau, mewn pum ystafell wahanol yn y tŷ.
 
“Doedd rhywfaint o’r gwaith plymio heb ei gwblhau’n gywir, ac fe wnaeth hynny achosi’r dŵr i lifo,” meddai. “Flood da ni’n ei alw, nid leak, achos dyna sut oedd o. 
“Roedd o’n ddychrynllyd iawn iawn, achos mai dŵr poeth oedd o hefyd. Ro’n i yma ar ben fy hun, gyda fy ngŵr yn gweithio i ffwrdd, yn dal i wella ar ôl llawdriniaeth, a doeddwn i ddim yn gwybod be i wneud mewn sefyllfa o argyfwng fel hyn. 
 
“Nes i drio ffonio CES, a doedd neb yn ateb am gyfnod hir. Pan ges i drwodd yn y diwedd, dywedodd nhw wrthaf, ‘bydd rhywun draw mewn tair awr’ – ‘dydych chi ddim yn deall, mae 'na ddŵr poeth yn llifo lawr waliau fy nhŷ, mae'n rhaid i rywun ddod yma ar unwaith’. 
 
“Daeth rhywun yma o fewn yr awr wedyn. Ond doedden nhw’n malio dim am y problemau da ni wedi eu cael, ac wnaethon nhw fyth ymddiheuro am y difrod wnaethon nhw achosi i’n cartref.”
 
Pedair wythnos oedd y cyfnod yr roedd CES wedi dweud y byddai’r gwaith yn ei gymeryd i’w gwblhau, ond dros bedwar mis yn ddiweddarach, mae problemau’n parhau meddai Ms Bailey.
 
Ychwanegodd Ms Bailey: “Ar ôl cael gymaint o driniaeth, roeddwn i eisiau cael nôl ar fy nhraed ac edrych ymlaen i’r dyfodol, cyn i hyn i gyd ddigwydd. Ond fe wnaeth hyn fy ngwthio yn ôl ac mae wedi cael effaith sylweddol ar fy iechyd.
 
“Taswn i’n gwybod mai fel hyn oedd o am fod, fyswn i byth wedi cytuno i gael y gwaith. Roedd o’n un o brofiadau gwaethaf fy mywyd.”
 

“Os fyswn i ddim yn berson cryf, fyswn i wedi torri i lawr cyn rŵan.” - John Mac Donald, Llanengan, Gwynedd

Image
John Mac Donald
John Mac Donald
Mae John, 79 oed, yn byw gydag anabledd a phroblemau iechyd yn ymwneud â’i galon a’i goluddyn. Mae’n dad i Richard Mac Donald, ac fel ei fab, mae wedi dioddef problemau sylweddol o ganlyniad i waith CES, meddai. 
 
Cyn cychwyn ar y gwaith, roedd CES wedi dweud eu bod yn gobeithio cwblhau’r gwaith o fewn saith i 10 diwrnod. Cychwynnodd y gwaith tra’r roedd Mr Mac Donald yn yr ysbyty.
 
Ar ôl tair wythnos o waith, ac wedi iddo dreulio saith wythnos yn yr ysbyty, fe symudodd Mr Mac Donald a’i wraig i garafan statig ar waelod eu gardd, tra bod y gwaith yn cael ei wneud yn ei gartref.
 
Oherwydd ei gyflwr, roedd yn rhaid i Mr Mac Donald fwydo ei hun gyda phibell drwy ei galon, sydd yn bwydo maeth i’w gorff gan bwmp a chyfrifiadur am 13 awr bob nos.  
 
O ganlyniad, roedd yn rhaid iddo fyw mewn amodau di-haint wrth baratoi’r cyfarpar bob nos.  
Image
Y cyfarpar meddygol sydd angen ar John Mac Donald er mwyn bwydo ei hun drwy ei galon pob nos
Y cyfarpar sydd angen ar John Mac Donald i ddarparu maeth i'w gorff pob nos, a'r amodau di-haint sydd angen arno
Roedd yn rhaid i Mr Mac Donald gysgu mewn ystafell arbennig ar ochr y tŷ gyda’r nos er mwyn gallu gosod y pwmp oedd yn rhoi maeth iddo.
 
Ond yn hytrach na 10 diwrnod, roedd y trefniant wedi parhau am 10 wythnos. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd iechyd Mrs Mac Donald hefyd wedi dirywio, ac roedd yn rhaid iddi dreulio chwe diwrnod yn yr ysbyty ar ôl argyfwng meddygol.
 
“Achos o’r gwaith sâl a’r disasters yn y bwthyn, roedd yn rhaid i ni dreulio 10 wythnos yn y garafan,” meddai Mr Mac Donald.
 
“Roedd un o’r gweithwyr wedi cytuno ar lafar y bysa CES yn talu am y nwy a thrydan ychwanegol i’r garafan, ac roedd hynny yn rhyddhad i ni. Rydan ni’n teimlo’r oerni lot fawr oherwydd ein cyflyrau meddygol. Ond fe wnaethon nhw dorri eu gair ar hynny."
 
“Roedd fy ngwraig yn cael amser caled iawn, ac fe wnaeth hyn roi gymaint o straen arni. Doedd hi ddim isho symud yn ôl i’r tŷ o’r garafan.”
 
Roedd safon y gwaith yn “ofnadwy” meddai Mr Mac Donald, oedd yn beiriannydd trydanol profiadol cyn iddo ymddeol.
 
 “Roedd safon y plymio yn warthus, efo lot o gamgymeriadau. Roedd yna lwch ym mhob man yn y bwthyn achos doeddan nhw heb orchuddio dim byd – dodfren, ornaments, lluniau, carpedi – dim.”
Image
Ceiling John Mac Donald
Mae John Mac Donald yn dweud ei fod yn hawlio miloedd o bunnoedd mewn costau am ddifrod honedig, gan gynnwys difrod i nenfwd ei gartref
Mae Mr Mac Donald yn ceisio hawlio miloedd o bunnoedd mewn costau gan y cwmni drwy’r llysoedd, er mwyn talu am garpedi newydd, costau glanhau y tŷ, nwy a thrydan ychwanegol i’r garafan, a gwaith trwsio difrod i nenfwd y tŷ.
 
“Fe wnaeth o gael effaith enfawr ar ein bywyd dyddiol, ac roedd y wraig yn ei dagrau bob nos,” meddai. 
 
“Os fyswn i ddim yn berson cryf, fyswn i wedi torri i lawr cyn rŵan.”
 

‘Diogelwch’

Image
Ben Lake AS
Ben Lake, AS Ceredigion
Mae’r Aelod Seneddol dros Geredigion, Ben Lake, yn dweud ei fod wedi derbyn cwynion gan etholwyr sydd wedi derbyn gwaith gan Consumer Energy Solutions. 
 
Dywedodd Ben Lake AS: “Mae Consumer Energy Solutions yn un o’r cwmnïau sydd wedi gwneud gwaith yng Ngheredigion ac mae’n rhaid i mi ddweud, yn ogystal â chwynion, fy mod hefyd wedi clywed am waith sydd wedi’u gwneud lle mae perchnogion tai wedi bod yn eithaf bodlon â’r gwaith. Felly mae'n bwysig cynnal hynny yn y drafodaeth.
 
“Mae’n gynllun pwysig sy’n helpu i wella effeithlonrwydd ynni llawer o gartrefi, ond mae’n deg dweud bod rhai wedi cael rhai profiadau anffodus ac wedi cael rhai problemau o ran y ffordd y mae gwaith wedi’i wneud ar eu cartrefi. Ac yn yr amgylchiadau a’r achosion penodol hynny, mae wedi bod yn eithaf dinistriol iddyn nhw.”
 
Mae angen “llwybr cryfach a chilirach” ar bobl i gyfeirio eu cwynion, yn ôl Ben Lake.
 
 Mae’n galw am sefydlu corff canolog sydd yn goruchwylio’r cynllun ECO4 a’r gwaith sydd yn cael ei gyflawni, ble all unigolion rhannu eu cwynion.
 
Mae gwefan OFGEM yn dweud eu bod yn “annog pobl i gysylltu gydag unrhyw adborth neu unrhyw brofiadau negyddol”, ond yn dweud bod eu gallu i ddatrys unrhyw anghydfod yn “gyfyngedig”.
 

Ymateb CES

Dywedodd llefarydd ar ran CES: "Mae CES yn siomedig i glywed am unrhyw gwsmer sydd ddim yn fodlon gyda'u cynnyrch a gwasanaethau."
 
“Fel cwmni Cymreig, mae CES yn falch o fod wedi cynorthwyo miloedd o gwsmeriaid bodlon i wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’w cartrefi ledled Cymru. 
Image
Van CES

“Mae CES yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu'r gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol sydd yn cael ei gydnabod yn ei sgôr 4.5 seren ar Trustpilot, sydd yn seiliedig ar dros 1,600 o adolygiadau. 
 
“Mae CES yn ymwybodol o’r materion a godwyd gan yr unigolion sydd wedi cysylltu â chi ac sydd wedi ceisio datrys eu pryderon, ond nid yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud sylwadau ar faterion penodol ar hyn o bryd. 
 
“Mae Consumer Energy Solutions yn ymwybodol o’r materion a godwyd ac mae’n gweithio i ddod â’r materion hyn i ddatrysiad cyflym.”
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.