Carchar am oes i ddyn am ymosodiad rhyw ar ddynes mewn toiled ysbyty yn y gogledd
Carchar am oes i ddyn am ymosodiad rhyw ar ddynes mewn toiled ysbyty yn y gogledd
Mae treisiwr wedi ei garcharu am oes am ymosodiad rhywiol ar ddynes mewn toiled ysbyty yn y gogledd.
Fe wnaeth Lee James Mullen, o Stryd yr Eglwys, Y Fflint, bledio’n euog i ymosodiad rhyw ar y ddynes 60 oed ac achosi niwed corfforol yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, yn yr ymsodiad ar 10 Rhagfyr y llynedd.
Roedd gan Mullen hanes o droseddau rhyw ar ôl derbyn dedfryd 11 mlynedd yn 2015 am dreisio dynes ar ôl ei chlymu.
Roedd Mullen wedi ei ryddhau ar drwydded chwe mis cyn yr ymosodiad yn yr ysbyty. Roedd yn yr ysbyty y diwrnod hwnnw i ymweld â ffrind iddo.
Roedd wedi bod yn yfed alcohol ac roedd dan ddylanwad cocên ar y pryd.
Wrth ei ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener, fe ddisgrifiodd y Barnwr Rhys Rowlands Mullen fel dyn peryglus iawn ac y byddai'n peri risg i eraill am amser sylweddol i ddod.
Cafodd ddedfryd am oes gydag isafswm o saith mlynedd dan glo - ond pwysleisiodd y barnwr na fyddai'n cael ei ryddhau gan y Bwrdd Parôl ac y byddai posibilrwydd na fyddai fyth yn rhydd.
Bydd Mullen yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol amhenodol, yn ogystal â bod ar y Gofrestr Troseddwyr Rhyw am oes.
Datganiad dioddefwr
Yn ystod y gwrandawiad dedfrydu, darllenwyd datganiad gan y ddioddefwraig. Dywedodd: “Roeddwn i’n credu fy mod i’n mynd i farw’r noson honno mewn toiledau ysbyty, lle sydd i fod ar gyfer iechyd, cariad, diogelwch ac ymddiriedaeth.
“Fy nymuniad pennaf yw na fyddwch byth, byth yn gwneud hyn i unrhyw un eto gan eu rhoi trwy drawma’r hyn yr es i drwyddo y noson honno, ac rwy’n parhau i fynd drwyddo hyd heddiw.
“Rwy'n addo i chi nawr, fe godaf fel ffenics o'r lludw.”
Wrth siarad ar ôl y ddedfryd, dywedodd y Ditectif Gwnstabl Ashley Davies: “Roedd hwn yn ymosodiad ysgytwol a digymell sydd wedi newid bywyd person diniwed a’i theulu.
“Ar ôl gadael yr ysbyty, fe wnaeth Mullen daflu ei ddillad cyn mynd i mewn i siop goffi leol i osgoi cael ei ddal. Hoffwn ganmol fy nghydweithwyr am leoli Mullen yn gyflym, cyn iddo allu cyflawni unrhyw droseddau pellach.”
Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Hoffwn dalu teyrnged i ddewrder y fenyw yn yr achos hwn. Mae ein meddyliau gyda hi a'i theulu.
"Mae’r ymosodiad hwn wedi cael effaith ddofn ar staff a oedd ar ddyletswydd y noson honno, yn ogystal â chydweithwyr eraill sy’n gweithio yn Ysbyty Glan Clwyd.
“Ni fyddwn byth yn derbyn trais o unrhyw fath, yn erbyn unrhyw un ar ein safleoedd gofal iechyd.”