
Arian ychwanegol i weisg Cymru yn hwb mewn ‘cyfnod o argyfwng’
Fe allai hwb ariannol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru helpu cwmniau cyhoeddi i oroesi a chyfrannu tuag at y targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Dyna yw barn Richard Tunnicliffe, sydd yn rhedeg gwasg Rily yng Nghaerffili.
Mae'n dweud bod yr arian ychwanegol sydd wedi’i addo gan weinidogion yn dod ar foment ble mae’r diwydiant yn wynebu ‘cyfnod o argyfwng’.
Nos Iau, dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd £4.4m y flwyddyn yn ychwanegol yn cael ei roi i gefnogi sectorau'r celfyddydau, diwylliant a chyhoeddi yng Nghymru.
Mae'r cyllid newydd yn cynrychioli cynnydd o 8.5% i'r sector o gymharu gyda llynedd. Nid yw’n eglur ar hyn o bryd sut y bydd yr arian ychwanegol yn cael ei rannu rhwng y sectorau gwahanol.
Dywedodd Jack Sargeant, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, bod y buddsoddiad “yn dangos ein hymrwymiad i sectorau diwylliannol a chelfyddydol Cymru”.
'Cysgu'n haws'
Dywedodd Mr Tunnicliffe bod y lefel ariannu y mae’r wasg wedi’i dderbyn wedi haneru mewn termau gwirioneddol dros y 14 mlynedd diwethaf.
Mae’n dweud bod cynnydd mewn costau, ynghyd â llyfrgelloedd yn cau a gostyngiad yn nifer yr ysgolion sydd yn prynu llyfrau wedi cyfrannu at y ‘storm berffaith’ i’r diwydiant.

“Mae hyn yn newyddion i’w groesawu, ond mi fydd y wybodaeth bwysig i’w gael yn y manylion sydd i ddod. Ond mi fydd pobl yn gallu cysgu yn haws gan wybod bod 'na ragor o arian ar y ffordd.
“Rwy’n gwybod bod y wlad gyfan wedi bod drwy gyfnod anodd, ond yn ein diwydiant ni, da ni di cael pobl ddim yn cymryd cyflogau, yn gorfod rhoi mwy o arian i mewn i’w busnesau dim ond i’w cadw i fynd.
“Roeddem ni, ac rwy'n gwybod am rai cyhoeddwyr eraill, ar ein gliniau. Felly mae mwy o gefnogaeth yn bendant i'w groesawu, yn amodol ar weld yn union beth ydyw.
“Roedd angen hwb arnom ni nawr i'n tywys ni allan o'r cyfnod yma o argyfwng, lle nad yw pobl yn talu eu hunain ac i'n cael ni drwy’r trafferthion yma fel y gallwn fod y diwydiant cyhoeddi sydd ei angen ar Gymru.”
Miliwn o siaradwyr
Fe ychwanegodd bod gan weisg yng Nghymru rôl bwysig i chwarae wrth i Lywodraeth Cymru geisio cyrraedd targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
“Os ydym yn mynd i gyflwyno cwricwlwm newydd, os ydym yn mynd i ddarparu’r adnoddau ar gyfer Cymraeg 2050, os ydym am ddarparu’r ecosystem honno yn Gymraeg sy’n angenrheidiol ar gyfer ei thwf, yna mae angen i ni ddod drwy’r storm yma fel y gallwn ffynnu a chyflawni’r hyn yr ydym i gyd eisiau.
“Beth ‘da ni wedi dweud wrth geisio lobïo gweinidogion, yw ein bod ni’n gwybod sut i wneud llyfrau, rydyn ni’n gwybod sut i gyflwyno’r math o gynlluniau darllen a chynlluniau llythrennedd sydd eu hangen yn ein hysgolion.
“Yr hyn yr ydym ni ei eisiau mewn gwirionedd wrth symud ymlaen yw partneriaeth iawn, ymgynghoriad iawn gyda Llywodraeth Cymru, fel y gallwn ni gyflawni'r hyn sydd ei angen arnyn nhw yn y ffordd fwyaf effeithlon, cost effeithiol.”
'Croesawu yn ofalus'

Dywedodd Lefi Gruffudd o wasg y Lolfa bod y cyhoeddiad yn dangos bod y Llywodraeth wedi cydnabod y “sefyllfa anodd” sy’n wynebu’r diwydiant.
“Mae’n galonogol,” meddai Mr Gruffudd, Pennaeth Golygyddol Lolfa.
“Da ni ddim wedi cael cadarnhad eto o’n hochr ni beth sy’n cael ei rannu, felly’r unig beth alla’i dweud ydi ei fod yn newyddion addawol i glywed bod nhw yn mynd i neud lan am beth dorrwyd blwyddyn ddiwethaf.
“Ni’n croesawu’r ffaith bod y Llywodraeth yn cydnabod y sefyllfa anodd sydd ohoni a gwneud lan am y toriad.
“Gobeithio gallwn ni gael ychydig mwy o sicrwydd ac o ddatblygu ar gyfer y dyfodol. Ond mae’n newydd ni’n croesawu yn ofalus.”