Newyddion S4C

‘Y niwed wedi digwydd’: Cyhoeddi arian newydd i’r celfyddydau yng Nghymru

Llun: Theatr Cymru
Theatr Cymru

Mae’r “niwed wedi digwydd” i’r celfyddydau yng Nghymru meddai cyd-brif weithredwr Theatr Cymru wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi rhagor o arian i’r sector.

Nos Iau dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd 4.4m y flwyddyn yn ychwanegol i gefnogi sectorau'r celfyddydau, diwylliant a chyhoeddi yng Nghymru.

Mae'r cyllid newydd yn cynrychioli cynnydd o 8.5% i'r sector ar y llynedd.

Daw’r buddsoddiad wedi i adroddiad gan Equity y llynedd ddangos toriad o 30% yn yr arian oedd ar gael i'r celfyddydau yng Nghymru rhwng 2017 a 2022. 

Dywedodd Steffan Donnelly, cyd-brif weithredwr Theatr Cymru, wrth Radio Cymru ddydd Gwener ei fod yn croesawu'r arian newydd ond mai adfer toriadau blaenorol oedden nhw.

Fe fydd yn rhai wythnosau nes bod sefydliadau celfyddydol yn gwybod faint o arian ychwanegol sy’n dod tyn nhw, meddai.

“Mae’r ymrwymiad yma o’r newydd gan y llywodraeth i gynyddu’r buddsoddiad yn y celfyddydau yn gam cadarnhaol ymlaen," meddai.

“O be dwi’n dallt mae’r cynnydd yma yn adfer y toriadau mae’r llywodraeth ‘di gwneud i Gyngor Celfyddydau Cymru'r llynedd, felly 'da ni’n gobeithio y bydd hwn rŵan yn gallu cryfhau'r sector.

“Swn i yn dweud yn y cyfamser, mae’r niwed wedi digwydd i’r sector. Mae’r amgylchedd i artistiaid a sefydliadau yn fwy heriol fyth, yn fwy ansicr. 

“Mae llawer o weithwyr llawrydd yn arallgyfeirio achos bod 'na llai o waith. Mae’r piblinell gweithwyr yna yn real struggle i ni.

“Mae costau yn parhau i gynyddu efo chwyddiant, mae costau teithio i’r gwaith i gymunedau yn ddrytach.

“Mae Grant Theatr Cymru wedi bod ar yr un lefel ers 2010, ac felly mewn termau real mae yna dal doriad yn y sector felly mae ‘na dipyn o waith dal i’w wneud.

“Ond mae’n foment i fod yn ddiolchgar i’r llywodraeth am yr arian i’r sector yn sicr.”

Ychwanegodd bod y toriadau wedi bwrw hyder pobl allai fynd i weithio yn y sector.

“Dwyt ti ddim am fynd i mewn i yrfa os ydi o’n teimlo yn ansicr neu os wyt ti’n clywed ar y radio bob hyn a hyn bod 'na ddim digon arian yn y sector,” meddai.

‘Diogelu’

Dywedodd Jack Sargeant, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, bod y buddsoddiad “yn dangos ein hymrwymiad i sectorau diwylliannol a chelfyddydol Cymru”.

"Nid ydym o dan unrhyw amheuaeth ynghylch yr heriau sy'n wynebu llawer o'n hamgueddfeydd, theatrau a mannau diwylliannol ac mae'r gyllideb hon yn gam sylweddol ymlaen o'r sefyllfa yr oeddem ynddi'r llynedd, ac yn gyfle go iawn i symud tuag at sylfaen fwy diogel a chynaliadwy, a pharhau â hynny yn y dyfodol,” meddai.

"Diolch i awydd gwirioneddol o bob rhan o Gabinet Llywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ein gallu, rwy'n falch iawn fy mod wedi gallu cymryd y cam arwyddocaol hwn i ddarparu cefnogaeth i'n cyrff celfyddydol, cyhoeddi a diwylliannol, sy'n cael eu gwerthfawrogi gymaint.

"Mae ein gwariant cyfalaf i helpu i ddiogelu ac amddiffyn asedau diwylliannol a threftadaeth Cymru yn y dyfodol bellach dros dair gwaith yr hyn ydoedd ddegawd yn ôl. Mae hyn yn cynnwys cefnogi prosiectau fel ailddatblygu Castell Caerffili, a gwaith ailwampio helaeth yn Theatr Clwyd ac Amgueddfa Wrecsam.

"Bydd y pecyn ariannu cynhwysfawr hwn yn helpu i ddiogelu a gwarchod diwylliant, celfyddydau, byd cyhoeddi a chwaraeon llawr gwlad Cymru, gan gefnogi eu rôl hanfodol mewn addysg, ymgysylltu cymunedol a thwristiaeth."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.