
Anorecsia: O bwyso letys i helpu menywod eraill
Anorecsia: O bwyso letys i helpu menywod eraill
Rhybudd: mae’r erthygl ganlynol yn trafod anhwylder bwyta.
Pan welodd Peter Jarvis ei lysferch yn pwyso letys ar glorian cyn ei bwyta, roedd yn gwybod bod rhywbeth o’i le.
Roedd Tia Ainsworth, 23, o Landrillo-yn-Rhos yn Sir Conwy wedi bod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl ers ei phlentyndod.
Ond gwaethygodd ei symptomau yn ystod y pandemig, gan arwain at ddiagnosis o’r anhwylder bwyta anorecsia.
“Roedd gen i ofn bwyd, roedd gen i bryder am fwyd,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C.
“Cwbl o’n i isho ei wneud oedd mynd allan i gerdded a gwneud ymarfer corff.
“Ro’n i isho gwneud yr holl symudiad dan haul, ond ddim rhoi’r egni yn fy nghorff ar ei gyfer.”
Yn ôl yr elusen anhwylder bwyta Beat, mae tua 1.25 miliwn o bobl yn dioddef o’r cyflwr a gall effeithio ar unrhyw un.

Dywedodd Tia nad oedd hi’n ymwybodol ei bod yn dioddef o anhwylder bwyta ar y pryd.
“Roedd pobl yn trio dweud wrtha i bod ‘na broblem, ond ro’n i’n gwadu’r peth,” meddai.
Fe aeth ymlaen i ddweud bod y cyflwr wedi “torri calonnau” ei rhieni, Peter a Gill Jarvis.
“Ro’n i’n gallu gweld bo’ mam a’n llys-dad yn torri eu calonnau ond ro’n i’n dal i wadu,” meddai.
“Ro’n i’n meddwl bod n’am byd yn bod, ond dw i'n meddwl tu mewn o’n i’n gwbod bod ‘na wbath o’i le.”

Yn ôl Mr Jarvis, roedd yn rhaid i’r teulu weithredu i sicrhau ei bod yn gwella.
“Yn ystod lockdown roedd yn rhaid i fi ddechra pobi bara, felly nesh i ddechra dilyn chef Richard Bertinet a nath hwnna helpu, achos tra o’n i’n pobi’r bara roedd yr arogl yn helpu Tia – gath hi hi flas ar fara, ac yn ara deg nath hi ddechra byta bara a tost,” meddai.
Yna, yn dilyn y cyfnod clo, roedd ei rhieni’n gyrru dros awr i Gaer bob dydd i fynd â Tia i’r unig gaffi lle byddai hi’n bwyta.
I ddechrau, byddai Tia yn rhannu hanner cacen gyda'i mam, gan adeiladu'n raddol i fwyta brechdan a chacen ei hun.
Dywedodd Mr Jarvis bod y daith wedi bod yn werth ei gwneud.
“Odda ni mor despret i helpu hi, 'sa ni 'di neud wbath i helpu hi drwy’r broses,” meddai.

Mae Tia bellach yn gwella ac yn cael ei chefnogi gan gwnselydd iechyd meddwl.
A hithau’n hyfforddwraig ffitrwydd, ei bwriad yw helpu menywod eraill i edrych ar ôl eu hunain.
“Dwi eisiau canolbwyntio ar y tu allan a’r tu mewn achos mae physique yn rhan o’r daith hon,” meddai.
“Ond fy mhrif fwriad ydi gwneud yn siŵr bod menywod yn teimlo’n hyderus: bod eu iechyd meddwl yn iach; eu bod yn hapus yn eu hunain; eu bod nhw’n gweld ffitrwydd fel rhywbeth sy’n gwella eu bywyd, nid rhywbeth sy’n ei dynnu i lawr.”
Yn ôl ei llys-dad, mae’n rhaid i ni newid y ffordd ‘da ni’n meddwl am anorecsia.
“Fel teulu, mae’n angenrheidiol bod y rhieni’n dalld yn union be sy’n digwydd,” meddai Mr Jarvis.
“Y peth pwysica ydi dalld na salwch meddwl ydi o a cyn gynted ’da chi’n dalld na salwch meddwl ydi o, yn hytrach na jyst 'mai’n gwrthod byta', hwnna sy’n helpu chi ddeall bo' na fwy o gefnogaeth i gael gan bobl proffesiynol.”

Mae Mr Jarvis yn annog unrhyw riant yn yr un sefyllfa i wneud ymchwil i’r cyflwr.
“Mi fyswn i’n annog rhieni i trafod efo elusen Beat, i neud yr ymchwilio, a darllen The Maudsley Approach – mae 'di helpu fi, a 'di helpu ni fel teulu fel bo' ni gyd yn dalld, felly fyswn i’n annog pobl i ddarllen y llyfr,” meddai.
“Ond hefyd i drafod a dalld yn union na salwch meddwl ydi o, yn hytrach na jyst pobl yn gwrthod bwyta.”
Ychwanegodd: “Mae ffrindiau a teulu ni’n dal i feddwl bod Tia’n gwrthod bwyta.”
Os ydy materion sydd yn cael eu trafod yn yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth ar gael yma.