Rygbi: Louis Rees-Zammit yn dychwelyd i garfan Cymru ar gyfer Cyfres yr Hydref

Louis Rees-Zammit

Mae asgellwr Cymru Louis Rees-Zammit wedi dychwelyd i garfan Cymru wrth i Steve Tandy gyhoeddi carfan Cymru am y tro cyntaf fel prif hyfforddwr.

Dyma'r tro cyntaf i Zammit gael ei gynnwys yn y garfan ers dychwelyd i rygbi'r undeb ar ôl treulio 18 mis yn yr NFL yn UDA.

Nid oedd Rees-Zammit wedi chwarae rygbi ers gêm Cwpan Her Ewrop ar 13 Ionawr 2024, cyn gadael y gamp i ddilyn gyrfa mewn pêl-droed Americanaidd.

Arwyddodd i Bristol Bears ar ddechrau'r tymor.

Mae Steve Tandy, wedi cyhoeddi carfan o 39 o chwaraewyr ar gyfer Cyfres Hydref Quilter fydd yn digwydd fis nesaf.

Jac Morgan fydd capten y garfan, a hynny wedi taith lwyddiannus gyda'r Llewod dros yr haf.

Mae’r Cymro arall deithiodd gyda’r Llewod eleni, Tomos Williams, hefyd wedi’i ddewis yng ngharfan Cymru ar gyfer y pedair gêm ryngwladol yn y gyfres.

Mae pum chwaraewr di-gap wedi’u dewis yn y garfan hefyd, sef Brodie Coghlan, bachwr y Dreigiau; James Fender, ail reng y Gweilch; Morgan Morse, rheng ôl y Gweilch; Danny Southworth, prop Caerdydd; a’r canolwr Louie Hennessey o glwb Caerfaddon.

Hefyd mae Jacob Beetham, Rhys Davies, Rio Dyer, Jarrod Evans, Joe Hawkins, Max Llewellyn, Callum Sheedy a Nick Tompkins, wedi eu cynnwys yn y garfan.

Mae Rhys Carre hefyd wedi’i gynnwys ar ôl cadarnhad gan y Bwrdd Rygbi Proffesiynol ei fod yn gymwys i gael ei ddewis i Gymru. 

'Cyfnod newydd'

Dywedodd Steve Tandy: "Mae wedi bod yn gyffrous iawn mynd trwy’r holl broses a sylweddoli faint o chwaraewyr da sydd ganddon ni. 

"Ar ôl ystyried popeth yn fanwl, ry’n ni wedi gwneud ein dewis bellach ac yn hapus iawn gyda’n penderfyniadau.

"Mae ganddon ni gymysgedd wych o ieuenctid a phrofiad hefyd ac mae pawb yn hynod o gyffrous am ddod at ein gilydd ddydd Llun i ddechrau ar ein gwaith o ddifrif. 

"Mae’n hynod o bwysig ein bod yn dod i adnabod ein gilydd yn well – a hynny’n gyflym iawn - fel ein bod yn magu dealltwriaeth a hunaniaeth o fewn y garfan.

"Mae ganddon ni rai wynebau newydd ac ambell hyfforddwyr newydd hefyd. Mae hwn yn gyfnod newydd i ni gyd a bydd cydweithio’n allweddol wrth i ni feithrin a gweithredu’n dull ni o chwarae."

Bydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch, ddydd Sul 9 Tachwedd yn erbyn Ariannin, sef eu gwrthwynebwyr yn Rownd Wyth Olaf Cwpan y Byd 2023. 

Bydd Los Pumas yn herio Cymru yng Nghaerdydd am y trydydd tro ar ddeg, a’r tro diwethaf iddynt ymweld â’r brifddinas oedd ym mis Tachwedd 2022 pan enillodd Cymru 20–13. 

Yna fe fydd Cymru’n chwarae yn erbyn Japan ar 15 Tachwedd, lai na phedwar mis ers y ddwy gêm brawf yn Japan dros yr haf. 

Daeth y gyfres honno i ben gydag un fuddugoliaeth yr un i’r ddwy wlad, gyda Chymru’n ennill yr ail brawf yn Kobe. 

Bydd Cymru wedyn yn herio Seland Newydd ar 22 Tachwedd cyn y gêm olaf yn erbyn Pencampwyr y Byd, De Affrica, ar ddydd Sadwrn 29 Tachwedd.

Bydd y garfan yn dod at ei gilydd yn ffurfiol ddydd Llun 27 Hydref i ddechrau paratoi ar gyfer y gyfres.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.