
Perchnogion Parc Penrhos ‘wedi cymryd mantais’ o’r safle a'i harddwch
Perchnogion Parc Penrhos ‘wedi cymryd mantais’ o’r safle a'i harddwch
Mae rhai o drigolion Ynys Môn yn teimlo fod perchnogion Parc Penrhos yng Nghaergybi wedi cymryd “mantais” o’r safle a’i harddwch.
Fe brynodd cwmni The 79th Group safle parc Penrhos ym mis Ionawr, gyda bwriad i ddatblygu parc gwyliau yno.
Ond erbyn mis Ebrill, fe aeth y cwmni sydd wedi ei leoli yn Southport i’r wal, gan roi’r parc yn nwylo’r gweinyddwyr.
Mae Oswyn Williams, sydd yn byw ger y Penrhos yn pryderu am ddyfodol y parc.
“Ma' fa'ma yn le eithriadol o bwysig i bobl. Mae o yn hafan i natur, a swni licio iddo fo aros fel’na,” meddai ar raglen Y Byd ar Bedwar ar S4C.
Roedd The 79th Group yn dweud eu bod yn rheoli asedau ar yn datblygu eiddo, ac yn denu pobl ar draws y byd i fuddsoddi yn eu busnes.
“Dwi meddwl bod 79th Group wedi defnyddio gwarchodfa natur ni ar Ynys Môn i gael pobl i fuddsoddi yn eu busnes nhw.
“Ma' nhw 'di cymryd mantais o honna ni, defnyddio’r lle hyfryd 'ma i ddenu pobl i roi i pres.”
Roedd 3,700 o bobl wedi buddsoddi yng nghwmni'r 79th Group, gyda’r addewid o log uchel yn ôl. Ond gyda’r cwmni wedi mynd i’r wal, mae dros £200 miliwn bellach yn ddyledus i’r buddsoddwyr hynny.
Parc Penrhos yn gwneud i fuddsoddwyr “trystio’r broses”
Un a wnaeth fuddsoddi yn y cwmni ac wedi ei phlesio gyda’r cynlluniau ym Mhenrhos oedd Emma, nid ei henw go iawn, o Dde Cymru.
“O’dd e’n neud sens ar y pryd achos fi’n Gymro ac o’n i’n trystio’r broses yn fwy wedyn,” meddai.

Fe wnaeth y cwmni ddweud mai prynu Penrhos ym mis Ionawr eleni oedd eu datblygiad mwyaf uchelgeisiol eto.
Roedden nhw hefyd yn dweud bod ganddyn nhw ddatblygiad cabanau gwyliau yn Loch Ness yn yr Alban, ac yn cloddio am aur yng Ngorllewin Affrica.
Fe fuddsoddodd Emma £50,000 ym mis Tachwedd llynedd, gyda’r addewid y byddai hi’n derbyn £3,750 dwywaith y flwyddyn - hynny yn llog o 15% ar y buddsoddiad gwreiddiol.
Dydy Emma fyth wedi derbyn y llog a does dim golwg chwaith o’r £50,000 a gafodd ei fuddsoddi.
Ym mis Chwefror eleni, fe gadarnhaodd Heddlu Dinas Llundain eu bod yn ymchwilio i honiadau o dwyll eang gan y 79th Group a bod pedwar person sy’n gysylltiedig â’r cwmni wedi’u harestio.
Mewn datganiad ar y pryd fe wnaeth y 79th Group wadu eu bod nhw wedi gwneud unrhyw beth o’i le.
Mae rhaglen Y Byd ar Bedwar wedi cysylltu â chyfarwyddwyr y 79th Group ond heb dderbyn unrhyw ymateb.
‘Pymtheg mlynedd o uffern’
Mae Parc Penrhos wedi bod yn y penawdau ers rhai blynyddoedd, wedi iddo gael ei werthu i berchnogion preifat yn 2011 gyda’r bwriad o ddatblygu parc gwyliau.
Ers y cychwyn, mae Oswyn wedi bod yn rhan o grŵp oedd yn ymgyrchu yn erbyn y cynlluniau.
“Ma’ hi di bod yn bymtheg mlynedd ofnadwy do, pymtheg mlynedd o uffern i bobl leol i fod yn onest efo chi.”

Mae Oswyn yn poeni yn fwy nag erioed am ddyfodol y parc sydd mor bwysig iddo ef a thrigolion yr Ynys.
“Ma’ fa’ma yn golygu bob dim i mi, Penrhos. Dwi isio fa’ma fod yma i’m mhlant i ac i’n wyrion i,” meddai Oswyn.
“'Sgena ni ddim syniad pwy sydd bia fo, na pwy sydd yn mynd i brynu fo chwaith. Mae’r frwydr wedi dechrau ond ’di heb ’di darfod.”
‘Sefyllfa'n parhau'n aneglur’
Mewn ymateb dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn, Dylan J. Williams:
“Rydym yn derbyn bod gwahaniaeth barn sylweddol ynglŷn â dyfodol safle Penrhos ac unrhyw ddatblygiad arfaethedig yno. Mae pobl leol hefyd wedi mwynhau’r safle ers blynyddoedd maith ac yn dal i wneud hynny hyd heddiw.
“Fodd bynnag, rhaid cofio mae tir preifat yw’r safle ac mae’r perchennog fydd yn gwneud penderfyniad ynglŷn â’i ddyfodol. Gyda’r sefyllfa'n parhau'n aneglur am berchnogaeth a dyfodol safle Penrhos, ni fyddai’n briodol gwneud sylw pellach.”
Fe ddywedodd Heddlu Dinas Llundain eu bod yn parhau â'u hymchwiliad i amheuaeth o dwyll eang sy'n ymwneud â'r 79th Grŵp a bod yr achos yn sylweddol a chymhleth.
Maent am sicrhau’r cyhoedd eu bod yn cymryd yr ymchwiliad o ddifrif ac am gefnogi’r dioddefwyr trwy’r broses.
Gwyliwch Y Byd ar Bedwar, ‘Colli Penrhos, Colli Popeth’ ar S4C Clic a BBC iPlayer.