Arestio dyn ar ôl i gerbyd mecanyddol trwm ddifrodi tafarn
Mae dyn 35 oed wedi cael ei arestio ar ôl i gerbyd mecanyddol trwm ('bulldozer') ddifrodi tafarn yn Rhondda Cynon Taf.
Roedd gyrrwr y cerbyd hefyd wedi gyrru i mewn i gar oedd heb unrhyw un ynddo.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi derbyn adroddiad am y digwyddiad yn nhafarn y New Inn yng Nghefn Rhigos yn Rhondda Cynon Taf, am 20.45 ddydd Iau.
Fe gafodd dyn 35 oed o Rhigos ei arestio ar amheuaeth o ymgais i achosi gwir niwed corfforol, gyrru yn beryglus, gyrru dan ddylanwad diod neu gyffur, ac achosi difrod troseddol.
Mae’r dyn a gafodd ei arestio yn yr ysbyty ar hyn o bryd. Ni chafodd unrhyw un arall ei anafu yn ystod y digwyddiad.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1996938984383971587?s=20
“Mae gennym reswm i gredu y gallai'r digwyddiad hwn fod yn un oedd wedi'i dargedu, ac rydym yn ymchwilio i’r amgylchiadau,” meddai’r heddlu.
Diolchodd yr heddlu i’r cyhoedd am eu cydweithrediad.