Menyw wedi marw ôl cael ei tharo gan gar yn Sir Gâr
05/12/2025
Mae menyw oedd ar droed wedi marw ar ôl iddi gael ei tharo gan gar yn Sir Gâr.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad brynhawn ddydd Mawrth am 17.35 ar ffordd Heol-Y-Neuadd ym mhentref Y Tymbl ger Caerfyrddin a Llanelli.
Cafodd y cerddwr ei chludo i’r ysbyty wedi iddi gael ei tharo gan gar Skoda, ond bu farw yn ddiweddarach.
Mae Heddlu Dyfed-Powys bellach yn apelio am unrhyw wybodaeth all gynorthwyo eu hymchwiliad, gan gynnwys delweddau CCTV neu dash cam.