Carcharu dyn o Fangor am ymosod ar ei gyn-bartner ar Ynys Môn

Jamie Cowell

Mae dyn 39 oed o Wynedd wedi ei garcharu am 16 mis ddydd Gwener ar ôl iddo gyfaddef torri gorchymyn atal ac ymosod ar ei gyn-bartner.

Roedd Jamie Cowell o Stryd Fawr Bangor yn feddw wrth iddo ei gwthio hi i'r llawr ac achosi briw ar ei phen ar ôl mynd i’w chartref ar Ynys Môn fis diwethaf.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon ei fod hefyd wedi trywanu soffa â chyllell yn ei chartref.

Dywedodd y Barnwr Timothy Petts fod gan Cowell 90 o droseddau ar gofnod. 

Derbyniodd orchymyn i atal cam-drin domestig am gyfnod o 20 mlynedd.

Dywedodd y cynghorydd amddiffyn Simon Killeen wrth y barnwr: "Mae'n amlwg bod alcohol a chyffuriau yn chwarae rhan yn ei fywyd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.