‘Hynod o siomedig’: Diswyddo Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Cadeirlan Bangor

Joe Cooper

Mae cyn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth mewn eglwys gadeiriol yn y gogledd wedi dweud wrth Newyddion S4C ei fod yn “hynod o siomedig” o gael gwybod ei fod wedi ei ddiswyddo.

Fe gafodd Joe Cooper, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Eglwys Gadeiriol Bangor, ei ddiswyddo ar ôl cynnal protest lle canwyd ‘Cantigl o Ddicter’ cyn i'r côr gerdded allan o wasanaeth ar ddiwedd mis Awst.

Mewn datganiad, dywedodd Eglwys Gadeiriol Bangor: “Mae Deon a Chabidwl Cadeirlan Bangor yn cyhoeddi, yn dilyn proses ddisgyblu drylwyr, yn cynnwys ymchwiliad i dorri (mewn modd difrifol) cyfrinachedd ac oblygiadau diogelu data yn ystod proses ddiswyddo, a hefyd ymddygiad yn ystod addoliad ar 31 Awst, y penderfyniad i ryddhau Joe Cooper o'i rôl fel Cyfarwyddwr Cerddoriaeth ar unwaith.

"Mae'r Cabidwl yn cydnabod cyfraniad sylweddol Joe i gerddoriaeth a bywyd y Gadeirlan, yn enwedig wrth greu a pherfformio gweithiau corawl yn yr iaith Gymraeg ac yn y safonau cerddorol uchel a gyflawnwyd gan y côr yn ystod ei gyfnod fel Cyfarwyddwr.

"Wrth edrych ymlaen, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i feithrin traddodiad cerddorol a chorawl cyfoethog y Gadeirlan a byddwn yn cymryd amser i ystyried y ffordd orau ymlaen ar gyfer ein gweinidogaeth gerddorol. 

"Rydym yn diolch i Joe am ei wasanaeth ac yn dymuno'n dda iddo ar gyfer y dyfodol."

'Ddim yn niweidiol'

Dywedodd Joe Cooper wrth Newyddion S4C ei fod wedi cael gwybod ddydd Mercher am y penderfyniad, a bod y datganiad yn un yr oedden nhw wedi cytuno arno o ran ei sylwedd.

“Mae'n amlwg yn hynod o siomedig i mi yn bersonol ac yn broffesiynol fy mod yn gadael fy swydd o dan yr amgylchiadau hyn, a byddaf yn ceisio cyngor ac o bosib yn gofyn am adolygu'r penderfyniad yn unol â'm hawliau cyfreithiol,” meddai. 

Dywedodd ei fod yn teimlo ei fod "wedi cael fy ngadael heb unrhyw ddewis ond siarad yn gyhoeddus" am ei fod yn teimlo fod y Cabidwl yn "amharod i weithio gyda mi dros yr Haf ac yn ystod y broses ddiswyddo i ddod o hyd i ateb i'r problemau cyllidebol".

“Rwyf hefyd yn anghytuno â honiad y Cabidwl fod gwneud hynny wedi bod yn niweidiol i'r gadeirlan, gan ein bod wedi gallu codi swm sylweddol o arian i ganiatáu i'r gadeirlan osgoi torri rhai swyddi o ganlyniad uniongyrchol i'm gweithredoedd.

“Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod anodd iawn i mi, i fy nheulu a'm ffrindiau, ac mae llawer o sylwadau niweidiol ac annheg ar-lein wedi bod amdanaf i a chôr Cadeirlan Bangor.

“Serch hynny, rydym hefyd wedi derbyn llawer iawn o gefnogaeth gan lawer o aelodau’r gynulleidfa a’r cyhoedd yn gyffredinol, ac rwy’n ddiolchgar iawn am hynny.

“Rwy’n obeithiol y bydd fy ymadawiad yn rhoi diwedd ar y cyfnod i’r aelodau hynny o gymuned y gadeirlan sydd wedi bod yn aros amdano, ac y bydd y rhai sy’n teimlo ei fod yn anghyfiawn ac yn annheg yn cael croeso a chefnogaeth lle bynnag y byddant yn penderfynu mynd nesaf.”

Daw'r newyddion wedi cyfnod cythryblus i'r Gadeirlan a'r Esgobaeth, gydag adroddiadau o gamymddwyn arweiniodd at ymddeoliad sydyn Esgob Bangor ac Archesgob Cymru, Andy John, ddiwedd mis Mehefin. 

Does dim awgrym bod y cyn-Archesgob ei hun wedi camymddwyn.

Mae’r sefydliad yn wynebu diffyg ariannol gweithredol o £300,000 erbyn diwedd 2025 hefyd, ac fe gafodd ymgynghoriad ei gynnal ar ddiswyddiadau posib ddechrau mis Medi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.