Rhybudd llosgiadau: 'Peidiwch â defnyddio stêm i drin annwyd eich plant'

Plentyn efo annwyd

Mae llawfeddyg o Gymru wedi rhybuddio rhieni i osgoi defnyddio anadlu stêm fel modd o drin annwyd eu plant.

Dywedodd Jeremy Yarrow o Ganolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru ei fod ef a’i gydweithwyr yn gweld gormod o blant bob blwyddyn oedd wedi dioddef llosgiadau.

Roedd y plant wedi ceisio anadlu stêm i drin eu symptomau ond wedi tywallt y dŵr berwedig, gan anafu eu hwynebau, brestiau, boliau a choesau, meddai.

Roedd oedolion hefyd yn dioddef, ond roedd plant yn arbennig o agored i niwed, gyda nifer angen triniaeth hirdymor ar ôl llosgiadau, meddai Jeremy Yarrow.

“Bob blwyddyn, yn anffodus, rydym ni yng Nghanolfan Llosgiadau Cymru yn gweld gormod o blant ac oedolion â llosgiadau o ddŵr berwedig sy'n gysylltiedig ag anadlu stêm,” meddai.

“Mae llawer o'r anafiadau wedi golygu bod angen mynd i'r ysbyty, ac mae rhai wedi mynd ymlaen i fod angen llawdriniaeth a grafftio croen.

“Gall yr anafiadau rwy'n eu gweld yn aml gynnwys llosgiadau o amgylch y cluniau, yr abdomen isaf a'r ardaloedd cenhedlu.

 "Mae plant mewn perygl llawer uwch oherwydd eu croen teneuach a’u diffyg ymwybyddiaeth o'r perygl.

“Yn anffodus, mae gan yr anafiadau hyn y potensial i newid bywydau mewn gwirionedd ac maen nhw'n gallu achosi creithiau sy’n parhau gydol oes.”

Ychwanegodd nad oedd anadlu stêm yn ffordd effeithiol o drin peswch neu annwyd.

Dywedodd Mr Yarrow: “Mae’r dystiolaeth yn wan ac mae’r damcaniaethau bod stêm yn llacio mwcws neu’n arafu atgynhyrchu firysau heb eu profi.

“Rwy’n annog y cyhoedd i beidio â defnyddio anadlu stêm fel meddyginiaeth ar gyfer trin afiechydon fel yr annwyd cyffredin a heintiau anadlol.

"Fe ddylen nhw yn hytrach ddefnyddio meddyginiaethau dros y cownter neu rai sy’n cael eu rhoi gan ddoctor.”
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.