Rhybuddion melyn am wynt a glaw ddydd Iau
Mae rhybuddion melyn am law a gwynt wedi eu cyhoeddi ar draws Cymru ar gyfer dydd Iau.
Mae'r rhybudd am law yn ei le rhwng 00.00 fore Iau a 21:00 y noson honno.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai rhwng 20-30 mililitr o law yn disgyn yn siroedd y de, gyda 30-50 mililitr mewn rhai ardaloedd.
Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd bod posibilrwydd o lifogydd ac y gallai'r glaw effeithio ar wasanaethau cyhoeddus.
Fe fydd y rhybudd am law yn y de yn effeithio ar y siroedd canlynol: Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy a Thorfaen.
Mae rhybudd melyn am wynt hefyd mewn grym ar gyfer sawl sir rhwng 04:00 a 18:00 ddydd Iau.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod disgwyl gwyntoedd rhwng 40-45 mya gyda hyrddiadau hyd at 60 mya mewn rhai ardaloedd arfordirol.
Mae disgwyl i'r rhybuddion am wynt a glaw effeithio ar wasanaethau trên a bysiau, gyda'r Swyddfa Dywydd yn awgrymu y dylai teithwyr baratoi ar gyfer teithiau hirach o ganlyniad.
Hefyd fe allai'r sefyllfa effeithio ar gyflenwadau trydan.
Bydd y rhybudd melyn am wynt yn effeithio ar y siroedd canlynol: Abertawe, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Ynys Môn.