‘Dwi’n cwffio i gael y gorau iddo fo’: Realiti magu plentyn awtistig

Y Byd ar Bedwar

‘Dwi’n cwffio i gael y gorau iddo fo’: Realiti magu plentyn awtistig

“Mae bywyd yn gyfan yn heriol.”

Dyna sut mae Leian Roberts o Benrhyndeudraeth yn disgrifio bywyd gyda’i mab, Twm 

Mae Twm yn 10 oed, yn awtistig ac yn ddi-eiriau. Mewn rhaglen arbennig o Y Byd ar Bedwar, mae Leian wedi penderfynu agor drysau ei chartref i gamerâu teledu, er mwyn dangos y realiti mae hi a’i theulu yn ei fyw bob dydd.

Mae Leian am gael trafodaeth gonest am fywyd gyda phlentyn ag anghenion dwys, “o’r cyfnodau hapus i’r meltdowns, o’r cariad i’r blinder emosiynol”. Does dim un diwrnod yr un fath. 

“Dydy’r bywyd yma ddim yn hawdd,” meddai Leian. “A dwi’m yn meddwl bod gan bobl syniad.”

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae awtistiaeth yn effeithio ar tua un ym mhob 100 o bobl yng Nghymru. 

“Dwi di penderfynu dangos bywyd fi a Twm achos dwi isio bobl weld be ma teuluoedd fel ni’n wynebu,” meddai Leian.

Image
Twm
Mae Twm yn 10 oed, yn awtistig ac yn ddieiriau

Mae Leian yn dweud ei bod hi’n bwysig dangos y realiti, y cyfnodau "mwyaf anodd", y cyfnodau mae llawer o rieni yn teimlo dan bwysau i’w cuddio.

“Y petha dydi pobl ddim yn siarad am a ma hynna’n cynnwys y meltdowns a teimlo yn hollol helpless ar adegau," meddai.

“Ma’ pobol sy’n d’eud ‘tha fi, ‘o, ‘sat ti’m yn newid o, na Leian?’ Byswn, ‘swn i yn newid y situation. ‘Swn i yn llwyr. Pwy ‘sa isio byw fel hyn? Pwy sy’ isio gweld eu plentyn nhw’n gael ffasiwn meltdown cyn mynd i’r ysgol? ‘Swn i’n newid y sefyllfa’n llwyr.

“A gen ti’r guilt ‘na wedyn. Ond y realiti ydi, pwy ‘sa isio? ‘Sa ‘na neb yn dewis cael plentyn fatha Twm. Neb yn dewis cael plentyn efo anghenion dwys, mor heriol, iddo fo ei hun, ia? ‘Ngwash i."

Bywyd wedi newid yn llwyr

Mae bywyd Leian a’i theulu wedi newid yn gyfan gwbl ers cael Twm. Pan oedd Twm yn chwech oed, bu’n rhaid i Leian roi’r gorau i’w gwaith llawn amser fel nyrs er mwyn gofalu am Twm. 

“Mae cael plentyn efo anghenion dwys yn bendant wedi difetha’ elfenna’ o ‘mywyd i. ‘Dwi’n teimlo’n rili euog yn d’eud hynna," meddai.

“Dwi’n caru Twm i’r lleuad ac yn ôl ac ‘swn i’n ‘neud rhwbath iddo fo. ‘Dwi’n cwffio i gael y gora’ iddo fo. Ond ma’ ‘na ran ohonna fo wedi newid fy mywyd i mor, mor dramatic, a ddim am y gora’, ma’ hynna’n rili anodd.”

Image
Leian
Dyw bywyd heb fod yr un peth i Leian ers i Twm gael ei eni.

Er bod Leian yn dweud ei bod yn byw un diwrnod ar y tro, mae’r dyfodol yn rhywbeth sy’n pwyso’n drwm ar ei meddwl.

“Ma’r dyfodol yn fy ‘nychryn i. Mae o wir yn,” meddai. 

Mae hi’n poeni am ba fath o gefnogaeth fydd ar gael i Twm wrth iddo fynd yn hŷn, ac yn fwy na dim, beth fydd yn digwydd iddo pan na fydd hi yno mwyach.

“Mae o yn beth mawr i ddeud, ond swni licio jyst byw 10 eiliad yn hirach na Twm," meddai.

“Dwi’n poeni am bwy sy’n mynd i watshad ar ôl Twm ar ôl i fi farw. Sut ma’ Twm yn mynd i copio hebdda fi?”

Mae Leian yn sgwrsio gyda ffrindiau a mamau eraill mewn sefyllfaoedd tebyg am ei theimladau, sy’n brofiad gwerthfawr iddi. 

Ond mae Leian yn dweud ei bod hi’n bryd i’r gymdeithas ehangach wrando hefyd.

Gwyliwch Y Byd ar Bedwar: Awtistiaeth Fy Mab, nos Lun am 20:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.