'Amharchus': Angen 'rhoi stop' ar chwibanu tuag at chwaraewyr dartiau
Mae cwmni dartiau Cymreig yn dweud bod chwibanu tuag at chwaraewyr tra eu bod yn taflu dartiau yn "amharchus" a bod angen "rhoi stop arno".
Daw sylwadau cwmni Red Dragon wedi i Jonny Clayton fethu darten ar ddwbl 16 i ennill yn erbyn Luke Humphries nos Iau, ar ôl iddo ymddangos fel petai rhywun yn y dorf wedi chwibanu arno wrth iddo daflu'r darten.
Wedi iddo fethu'r targed, roedd Clayton wedi troi i wynebu'r dorf, cyn i Humphries ennill yr ornest yn rownd gyn-derfynol yr Uwch Gynghrair.
Dywedodd Clayton wrth Humphries beth ddigwyddodd ar ôl y gêm, a dywedodd Humphries na fyddai'r Cymro "yn dweud celwydd" am y digwyddiad.
"Doeddwn i ddim yn gwybod ar y pryd," meddai Humphries.
"Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd. Fyddai Jonny ddim yn dweud celwydd.
"Dych chi ddim eisiau ennill fel 'na, ond yn anffodus rydyn ni'n gweld e'n digwydd yn llawer rhy aml."
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd cwmni Red Dragon, sydd yn noddi Clayton, bod chwibanu ar chwaraewyr yn "amharchus."
"Rydym wedi ein tristáu gan y heclo a ddigwyddodd yn y dartiau.
"Mae chwibanu at chwaraewyr tra eu bod nhw'n taflu yn digwydd yn amlach mewn dartiau. Mae'n amharchus tuag at y chwaraewyr, yn niweidiol i'r gamp ac mae angen rhoi stop arno.
"Mae gan Jonny Clayton ein cefnogaeth lawn. Mae taflu darten i ennill y gêm gyda rhywun yn chwibanu'n barhaus yn y dorf yn rhywbeth na ddylai unrhyw chwaraewr orfod delio ag ef."
Dyw chwibanu yn y dartiau ddim yn rhywbeth anghyffredin erbyn hyn, gyda sawl digwyddiad dros y misoedd diwethaf.
Yn ystod yr Uwch Gynghrair yn Sheffield ar 21 Mai, roedd Gerwyn Price wedi atal ei gêm gyda Stephen Bunting wedi iddo ddarganfod pwy oedd yn chwibanu yn y dorf.
Pwyntiodd Price at y person roedd yn credu oedd yn gyfrifol ac fe gafodd y person ei daflu allan.
Roedd y dyfarnwr, Owen Binks, wedi dweud na fyddai'n ailgychwyn y gêm tan i'r person gael ei dywys allan o'r lleoliad.
Inline Tweet: https://twitter.com/SkySportsDarts/status/2057561626262282457
Dyfarnwr arall sydd wedi mynd i'r afael â chefnogwyr yw'r Cymro Huw Ware.
Mewn dau ddigwyddiad ar wahân mewn gemau ar y gylchdaith Ewropeaidd, mae Ware wedi gofyn i berson oedd yn chwibanu "i gau ei ben" ac mewn digwyddiad arall wedi rhybuddio y byddai staff diogelwch yn cael gwared ar unrhyw un oedd yn chwibanu.
Beth mae'r PDC yn dweud?
PDC yw'r corff llywodraethu ar gyfer y gamp broffesiynol, ac mae’n nhw'n cynnal y rhan fwyaf o gystadlaethau ledled y byd.
Nid oes gan y PDC reolau pendant ar waith, ond maen nhw wedi dweud wrth Newyddion S4C bod ganddyn nhw ganllawiau i fynd i'r afael â phobl yn chwibanu yn y dorf.
"Fel gydag unrhyw ddigwyddiad chwaraeon byw mawr, mae rheoli torf fawr yn heriol," meddai'r PDC.
"Mae dyfarnwyr y PDC, staff diogelwch a staff y lleoliad yn cydweithio i reoli'r dorf yn y ffordd orau posibl a darparu'r amodau chwarae gorau posibl i'r chwaraewyr.
"Lle mae unigolion yn achosi aflonyddwch, gall camau priodol gael eu cymryd gan staff diogelwch y digwyddiad a staff y lleoliad, ac mae unrhyw broblemau sydd yn dod i'r amlwg ar y noson yn cael eu trin yn unol â hynny."

