Cyngor yn pleidleisio o blaid cau menter sy'n cyflogi pobl ag anableddau

Cefndy Healthcare

Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi pleidleisio o blaid cau menter sy'n cyflogi pobl ag anableddau.

Mewn cyfarfod ddydd Mawrth, fe wnaeth cynghorwyr “un o’r penderfyniadau anoddaf i ni ei wneud,” yn ôl arweinydd y cyngor, Jason McLellan, sef cau Cefndy Healthcare, yn y Rhyl.

Cyn y cyfarfod, roedd swyddogion y cyngor wedi cyflwyno pum opsiwn i’r cabinet ynglŷn â dyfodol y safle: gwneud dim byd; buddsoddiad gan y cyngor; lleihau'r gweithlu; model cyflenwi amgen; neu gau'r fenter.

Roedd swyddogion wedi argymell ei chau gyda'r posibilrwydd o'i gwerthu i Grŵp Llandrillo Menai, oedd eisoes wedi dangos diddordeb.

Dywedodd Ann Lloyd, Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion a Digartrefedd y cyngor, mai dyma'r "unig opsiwn hyfyw i Cefndy Healthcare fel gwasanaeth o fewn gofal cymdeithasol i oedolion a digartrefedd".

Byddai'r broses o gau'r fenter a diswyddo ei 29 aelod o staff – sy'n cynnwys 22 ag anableddau – yn costio tua £880,000, yn ôl Ms Lloyd.

Clywodd cynghorwyr yn y cyfarfod bod “ffactorau masnach byd eang” wedi cael effaith mawr ar hygyrchedd y busnes.

Dywedodd Nicola Stubbins, Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg y cyngor, bod y gost o gynhyrchu comôd yng Nghefndy yn £27, tra bod yn bosib prynu’r eitem o Tsieina am £10.

“Ni allwn gystadlu gyda hynny,” meddai.

“Rydyn ni wedi penodi swyddog marchnata yn y gorffennol ond mae gan y cwmnïau anferthol yma dimau marchnata, a dydyn ni ddim yn gallu cystadlu.

“Hyd yn oed gyda buddsoddiad sylweddol, ni fydda hynny’n cyffwrdd yr ochrau. Mae yna ffactorau ar waith sydd ymhell y tu hwnt i'n rheolaeth."

'Anniogel'

Ychwanegodd Ms Lloyd bod costau cynyddol o brynu peiriannau newydd a chostau cynnal yr adeilad hefyd yn cael effaith.

Roedd lleihau’r gweithlu yn un o’r opsiynau a drafodwyd, ond fe ddywedodd y byddai hynny yn creu risg o wneud Cefndy yn lle “anghynhyrchiol neu anniogel i barhau i weithredu.”

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton: “Y ddau brif peth sydd wedi newid dros y 12 mis diwethaf yw menforion rhad a heriau byd eang, ond hefyd ymddygiad cwsmeriaid. 

"Y prif brynwyr i nwyddau Cefndy ydy’r GIG, awdurodau lleol, ac mae ganddyn nhw heriau cyllidebol eu hunain, ac maen nhw’n ailgylchu mwy rwan.

"Dydyn ni ddim yn siarad am gynaliadwyedd tymor byr yn unig, dim fesul blwyddyn, ond am gynaliadwyedd hir dymor. 

"Rydym yn deall y risgiau ac o’r tystiolaeth sydd gennym, dim ond gwaethygu gan yr heriau presennol a wnaiff rhain dros amser.”

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones bod yna ymdeimlad yn ardal y Rhyl gan “staff presennol ac o’r gorffennol y gallai Cefndy oroesi”.

Staff

Clywodd y cynghorwyr bod “lot o waith wedi’i wneud” er mwyn ceisio cynorthwyo staff i ganfod swyddi newydd.

Roedd tua 15 o’r staff wedi dweud eu bod yn dymuno chwilio am waith newydd, tra bod saith yn bwriadu cymryd y pecyn colli gwaith ('redundancy'), tra bod eraill eto i wneud penderfyniad.

Ar ôl dwy awr o drafod yn siambr y cyngor yn Rhuthun, fe benderfynodd aelodau bleidleisio’n unfrydol o blaid yr argymhelliad i gau Cefndy.

Mae’r penderfyniad yn cynnwys yr amod i roi cefnogaeth ychwanegol i weithwyr er mwyn "sicrhau’r canlyniad cywir" ar gyfer pob aelod o staff a effeithiwyd gan y penderfyniad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.