Caniatáu atyniad newydd dadleuol yn Zip World
Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd wedi caniatáu atyniad newydd dadleuol yn Zip World ym Methesda.
Roedd adran gynllunio'r cyngor wedi argymell caniatáu'r atyniad o'r enw 'Swing' chwe sedd ar safle'r parc antur yn Chwarel Penrhyn gydag amodau.
Cafodd y cynllun ei gymeradwyo gan swyddogion y cyngor yr wythnos hon, gyda naw yn pleidleisio o blaid a phedwar yn erbyn.
Daw'r newyddion yn dilyn pryderon gan drigolion Bethesda am sŵn "sgrechfeydd o fraw a chyffro" gan ddefnyddwyr y reid.
Dywedodd y swyddog cynllunio, Gwawr Hughes, wrth y cyfarfod cynllunio fod swyddogion diogelu'r cyhoedd wedi derbyn casgliadau am sŵn peiriannau'r reid.
Ond roedden nhw wedi teimlo bod "diffyg sylw" wedi cael ei roi i'r potensial am sgrechfeydd gan ddefnyddwyr yr atyniad, meddai.
"Mae hwn yn bryder i drigolion lleol, ond mae'n anodd iawn ei ragweld," meddai Ms Hughes.
Fe aeth ymlaen i ddweud bod modd rhoi "amodau a phrosesau priodol" ar waith "i ystyried unrhyw gwynion yn ystod cyfnod gweithredol y reid".
"Byddai hyn yn sicrhau bod mesurau penodol yn cael eu rhoi ar waith i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau, os oes tystiolaeth o sŵn niweidiol," meddai.
Fe wnaeth swyddogion y cyngor ystyried y cynnig "yng nghyd-destun" gweithgareddau eraill ar safle Zip World ac "nid oes disgwyl iddo gael [effeithiau] sŵn niweidiol sylweddol ar drigolion".
Dywedodd Ms Hughes: "O ystyried defnydd y safle cyfagos fel cyrchfan dwristaidd boblogaidd, yn ogystal â’i leoliad ôl-ddiwydiannol, a’r budd economaidd sy’n debygol o ddeillio o’r datblygiad, credwyd y byddai’n gwella ac yn ehangu’r ystod o gyfleusterau sydd ar gael i ymwelwyr."
Roedd Cadw, gwasanaeth amgylchedd Llywodraeth Cymru, hefyd wedi codi pryderon am effaith yr atyniad ar y safle treftadaeth.
Ond daeth swyddogion i'r casgliad bod "manteision y cynigion yn cydbwyso effeithiau andwyol, gydag effaith niwtral gyffredinol".