'Fandaliaeth amgylcheddol': Gwrthod cais am fferm solar ym Mhen Llŷn
Mae cais i ddatblygu fferm solar ar dir amaethyddol ym Mhen Llŷn wedi cael ei wrthod.
Roedd "nifer sylweddol" o bobl wedi lleisio eu gwrthwynebiad i'r cynllun ynni adnewyddadwy ger Lôn Pin yn Llanbedrog.
Fe wnaeth pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd wrthod y cais yn unfrydol mewn cyfarfod ddydd Llun.
Bwriad y cynllun gan gwmni Lôn Pin Solar oedd creu fferm solar 4.99MW ar draws dau gae.
Roedd yn cynnwys creu ffyrdd a mynediad newydd ar gyfer cerbydau, gosod dwy orsaf drawsnewid i ddosbarthu trydan, a gosod ceblau tanddaearol.
Ond roedd pryderon y byddai'n cael effaith negyddol ar y diwydiant amaethyddol, yn ogystal â golygfeydd, llwybrau cerdded a man glanio ambiwlans awyr.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y cwmni tu ôl i’r cynllun y byddai’r fferm solar yn cael effaith "fach iawn" ar yr ardal.
Yn ôl Dr Chris Bale, roedd gan y cynllun nifer o "fanteision", gan gynnwys cefnogi'r diwydiant ffermio a chynnig ffrydiau incwm.
'Difetha'r dirwedd'
Roedd Angela Russell, y cynghorydd sir dros ward Llanbedrog a Mynytho, yn erbyn y cynllun.
Dywedodd: "Mae’r cais yn dweud mai fferm solar yw hon, nid fferm yw hon, mae ei galw’n fferm yn gamarweiniol.
"Sut ydw i’n disgrifio fferm? Mae’n gaeau gwyrdd, yn llawn defaid a gwartheg, ŵyn yn y gwanwyn, adar yn chwilio am leoedd i nythu, y gog yn y coed, y ffermwr yn chwibanu gyda’i gi, yn ceisio casglu ei anifeiliaid, y llwynog yn croesi’r caeau, ychydig o ffesantod, hwyaid gwyllt yn hedfan tuag at lynnoedd cyfagos, ac yn yr haf, arogl glaswellt yn cael ei dorri wrth i’r ffermwr baratoi ar gyfer y gaeaf.
"Dyma beth yw ffermio i mi, teuluoedd yn gofalu am y tir, yn cynhyrchu bwyd maethlon.
"Rwy’n adnabod y lle yma yn dda, dyma’r tir amaethyddol gorau yn Llanbedrog, 98% yn radd dau, o safon uchel iawn."
Fe aeth ymlaen i ddisgrifio sut roedd tatws wedi cael eu tyfu yn yr ardal yn hanesyddol i'w gwerthu mewn siopau lleol.
"Mae'r cyngor cymuned yn erbyn y cynllun, mae nifer o drigolion yn ei erbyn, gan gynnwys fi fy hun," meddai.
"Yr unig beth gwyrdd gyda hyn fydd y ffens fawr o'i gwmpas."
Dywedodd y Cynghorydd Louise Hughes ei bod yn "erbyn paneli solar mewn meintiau enfawr ar dir amaethyddol agored".
"Mae Pen Llŷn yn adnabyddus am ei harddwch naturiol eithriadol, ac mae'r pethau hyn yn difetha'r dirwedd," meddai.
"Yn fy marn i, maen nhw'n gyfystyr â fandaliaeth amgylcheddol. Rwy'n gwbl yn erbyn y cynnig yma."