Cenarth: Dau yn euog o gynllwynio i lofruddio gŵr mewn carafan
Cenarth: Dau yn euog o gynllwynio i lofruddio gŵr mewn carafan
Mae dau o bobl wedi eu cael yn euog o gynllwynio i lofruddio gŵr mewn maes carafanau yng Nghenarth, Sir Gaerfyrddin.
Wedi achos a barodd am bythefnos, dyfarnodd y rheithgor fod Michelle Mills o Langennech a Geraint Berry o Glydach yn euog o gynllwynio i ladd gŵr Mrs Mills, Christopher Mills, fel bod modd iddyn nhw barhau â'u perthynas.
Roedd trydydd person, Steven Thomas o Flaengwynfi, Cwm Afan, yn ddieuog o'r un cyhuddiad wedi honiadau iddo gynorthwyo Berry.
Roedd Thomas eisoes wedi cyfaddef iddo fod ag arf yn ei feddiant, gyda'r bwriad o wneud i Christopher Mills feddwl bod gweithred dreisgar ar fin cael ei chyflawni yn ei erbyn e, neu berson arall.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Mills a Berry wedi bwriadu llofruddio Christopher Mills a gwneud i'w farwolaeth ymddangos fel hunanladdiad.
Dioddefodd Mr Mills ymosodiad mewn carafan yr oedd yn ei rhannu gyda'i wraig yng Nghenarth, fis Medi 2024.
Roedd y ddau ymosodwr yn gwisgo mygydau ac roedd ganddyn nhw ynnau llaw ffug, yn ogystal â mygydau nwy, a phleiars mewn bag.
Perthynas
Clywodd y llys mai Geraint Berry sy'n gyn fôr-filwr oedd un o'r ymosodwyr, a'i fod wedi bod yn cael perthynas gudd gyda Mrs Mills am oddeutu dri mis cyn yr ymosodiad.
Fe briododd Mrs Mills a'i gŵr, a oedd hefyd yn arfer gweithio yn y lluoedd arfog, yn 2018.
Roedd y ddau yn byw gyda'i gilydd ym Maes Tŷ Gwyn, Llangennech, Sir Gaerfyrddin.
Clywodd y llys nad oedd Mr Mills yn ymwybodol o unrhyw broblemau yn eu perthynas a bod ei wraig wedi dechrau gweld Mr Berry ym mis Mehefin 2024.
Ar noson yr ymosodiad, eglurodd yr erlyniad fod Mr Mills a'i wraig yn eistedd yn lolfa'r garafan pan aeth e i ateb cnoc ar y drws.
Roedd dau ddyn gyda mygydau a gynnau yno, a chafodd ei daro yn ei wyneb.
Llwyddodd Mr Mills i ffoi.
Dywedodd yr erlyniad fod yr heddlu wedi darganfod Geraint Berry a Steven Thomas yn cuddio ger safle'r garafan yn ddiweddarach.
Clywodd y llys fod un o'r dynion yn cario nodyn hunanladdiad ffug, a oedd i fod wedi ei anfon gan Mr Mills at ei wraig.
'Drama deledu'
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Sam Gregory o Heddlu Dyfed-Powys: “Rwy'n falch fod Michelle Mills a Geraint Berry wedi eu cael yn euog o gynllwynio i lofruddio, ac y bydd y ddau yn cael eu dedfrydu am eu rhan yn y cynllwyn i ladd Mr Mills.
" Tra bod yr achos hwn yn ymdebygu i ddrama deledu, wrth galon hyn roedd ymgais wirioneddol i ladd rhywun.
“Cynllwyniodd Mills a Barry nid un, nid dwy, ond tair ymgais i ladd Mr Mills, a does dim amheuaeth yn fy marn i, y byddai'r ddau wedi parhau i lunio cynlluniau tebyg, pe na bai nhw wedi cael eu dal y noson honno."
Bydd Michelle Mills, Geraint Berry a Steven Thomas yn cael eu dedfrydu ar 19 Rhagfyr.