
'Mwy na siop': Cymuned yn gobeithio perchnogi siop lyfrau Gymraeg yn Sir Conwy
'Mwy na siop': Cymuned yn gobeithio perchnogi siop lyfrau Gymraeg yn Sir Conwy
Mae grŵp cymunedol yn gobeithio perchnogi siop lyfrau Gymraeg yn Sir Conwy er mwyn ‘cynnal a chefnogi’r iaith’ yn yr ardal.
Mae Siop Bys a Bawd wedi bod yn rhan o gymuned Llanrwst ers 50 mlynedd, a bellach, dyma’r unig siop lyfrau Gymraeg yn y sir gyfan.
Mae adeilad y siop, sydd hefyd yn cynnwys dwy fflat, wedi bod ar werth ers sawl blwyddyn bellach, ond nid yw wedi’i werthu ar y farchnad rydd.
Dywedodd Meirion Davies, o Fenter Iaith Conwy: “Be sydd di ddigwydd ydi bod y siop ar werth ac mae’r perchennog presennol isho ymddeol, ond does ‘na ddim diddordeb ar y farchnad rydd.
“Mae 'na dipyn o bobl leol, yn Nyffryn Conwy, wedi dangos pryder, achos yn amlwg os mi fysa’r siop yn cau, mi fysa fo’n ergyd i’r Gymraeg yn y dyffryn.”

Dan arweiniad y Fenter, mae aelodau’r gymuned wedi cynnal cyfarfodydd dros y misoedd diwethaf i drafod y posibilrwydd o berchnogi’r busnes fel cwmni budd cymunedol.
Mae cwmni o’r enw Bys a Bawd Pawb bellach wedi’i sefydlu er mwyn ceisio codi’r £395,000 sydd ei angen er mwyn prynu’r busnes a’r adeilad.
“Da ni ‘di cael dipyn o ddiddordeb yn y cyfarfod cyhoeddus cyntaf, oedd o’n llawn iawn,” ychwanegodd Mr Davies.
“Oeddan ni’m yn disgwyl cymaint i ddeud y gwir, mi oedd na ryw 40 yna.
“Felly da ni di bod yn mynd trwy’r broses o gofrestru’r corff fel cwmni budd cymunedol, datblygu cynllun busnes, ceisiadau grant, ac mae dipyn o rheina wedi llwyddo so mae petha’n dechrau symud rŵan, a gobeithio mae ‘na fwy o ddiddordeb.
“Ond mae 'na waith i’w wneud so fydda ni isho tynnu pawb i mewn i helpu efo’r gwaith.”
'Andros o bwysig'
Mae Menter Iaith Conwy wedi sicrhau grant drwy gynllun Perthyn gan Lywodraeth Cymru, i “helpu cymunedau Cymraeg sydd â niferoedd uchel o ail-gartrefi.”
Mae’r grŵp wedi defnyddio’r arian er mwyn ceisio sefydlu cynllun a fyddai'n caniatáu i aelodau’r gymuned brynu cyfrannau o’r busnes.
Mae’r Cynghorydd Sir Nia Owen yn dweud bod y grŵp yn obeithiol y bydd yna ddigon o ddiddordeb yn y gymuned i brynu a chynnal y busnes.
“Dwi’n cofio bod 'na siop lyfrau Cymraeg yma ers o'n i’n hogan fach.

“Ac mae’n andros o bwysig er mwyn cynnal a chefnogi’r iaith Gymraeg yma. Mae 'na wastad di bod siop lyfrau Cymraeg yn Llanrwst ‘ma, a 'da ni isio gweld bod hynny’n parhau. Does 'na ddim un arall yn y sir erbyn hyn.”
A gyda siopau llyfrau Cymraeg yn cau dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys Siop Lewis yn Llandudno, Siop y Pethe yn Aberystwyth a Siop y Pentan yn Llanelli, mae angen bod yn “arloesol” er mwyn eu cynnal yn y dyfodol, yn ôl Ms Owen.
“Da ni isho fo fod yn rwbath mwy na dim ond siop,” ychwanegodd.
“Da ni isho fo fod yn hwb diwylliannol a llenyddol, a’i fod yn hwb ar gyfer hyrwyddo llenyddiaeth Gymraeg a Chymreig.
“Mae'n rhaid i ni feddwl am syniadau mwy arloesol, a ffyrdd gwahanol i ddenu pobol a pherswadio nhw i ddod i brynu mewn siop yn hytrach nag ar-lein.
"Ac ella trwy ddigwyddiadau ac ati, dyna'r ffordd i neud hynny.
"Ond da ni'n awyddus i gal y prosiect cyfranddaliadau ‘ma ar ei draed, a bod ni fel grŵp yn ymweld â siopau llyfrau Cymraeg eraill mewn llefydd fel Gwynedd, i weld be maen nhw'n neud, er mwyn sicrhau bod y busnes yn un sy’n gynaliadwy i’r dyfodol.”