Grwpiau cymunedol i gael buddsoddiad 'i gynnal y Gymraeg'
Bydd 15 grŵp cymunedol ar draws Cymru yn derbyn buddsoddiad er mwyn troi eu syniadau yn brosiectau "i gynnal y Gymraeg yn eu cymunedau".
Bwriad cynllun Perthyn, sef cynllun grantiau bach Llywodraeth Cymru, ydy helpu cymunedau Cymraeg sydd â niferoedd uchel o ail-gartrefi.
Fe gafodd y cynllun ei sefydlu yn 2022, ac mae wedi helpu 62 o brosiectau cymunedol ers hynny.
Bydd buddsoddiad o £10,000 yn cael ei roi i gymuned leol Llanrwst er mwyn ceisio prynu siop lyfrau Bys a Bawd.
Mae'r siop wedi bod yn rhan o'r gymuned ers 50 o flynyddoedd, ac mae'r Gymraeg yn ganolog i'r busnes.
Dywedodd Prif Weithredwr Menter Iaith Conwy Meirion Davies: "Mae o'n rhan pwysig o Gymreictod Llanrwst, mae o'n siop sydd yn cynnig bob math o nwyddau, dim jest llyfrau, ond nwyddau Cymraeg hefyd, felly fasa fo bendant yn gadael bwlch hebddo fo. Hefyd, erbyn rwan, Bys a Bawd ydi'r unig siop Gymraeg yn y sir.
"Ma' 'na grŵp wedi cael ei sefydlu sef Bys a Bawd Pawb Cyf. a gobaith y grŵp yna wedyn ydi fyddan nhw yn y flwyddyn newydd yn gallu symud i ystyried prynu'r busnes felly a wedyn rhedeg o fel menter gymunedol.
"Fydd o'n galluogi y grŵp Bys a Bawd Pawb i neud petha ella eitha arbenigol fysa unigolion ar y pwyllgor ddim efo'r arbenigedd i neud, fel ceisiadau grant, rhedeg cynllun cyfranddaliadau. Mae o hefyd yn mynd i helpu cyfansoddi y grŵp hefyd.
"Dyna un o'r rhesymau 'dan ni yma fel menter iaith ydi helpu'r gymuned lle ma' 'na fylchau, lle ma' 'na fygythiad i'r Gymraeg."
Mae Ymddiriedolaeth Tir Bro'r Ffynnon yn Llanystumdwy a Menter Gymunedol Llanuwchllyn yng Ngwynedd, Deryn Du yng Ngheredigion a Chanolfan Bethlehem yng Nghasnewydd hefyd ymysg y grwpiau a fydd yn derbyn buddsoddiad.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford: "Mae grantiau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i'n cymunedau.
"Mae'n wych gweld cymaint o brosiectau yn y rownd hon o gyllid Perthyn, sy'n cynnwys prosiect ynni cynaliadwy a chymunedau'n dod at ei gilydd i brynu a rhedeg eu tafarnau, siopau, llyfrgelloedd a chapeli lleol i geisio sicrhau budd i'w cymunedau."