Wynne Evans ddim yn cyflwyno ar ei raglen radio foreol ar hyn o bryd
Wynne Evans ddim yn cyflwyno ar ei raglen radio foreol ar hyn o bryd
Fe fydd Wynne Evans yn “cymryd amser i ffwrdd” o gyflwyno ei raglen foreol ar orsaf BBC Radio Wales medd BBC Cymru.
Doedd Mr Evans ddim yn cyflwyno ei raglen fore Llun, gyda’r cyflwynydd Robin Morgan yn cymryd ei le.
Yn ôl llefarydd ar ran BBC Cymru: “Mae Wynne yn cymryd amser i ffwrdd o’i raglen ar Radio Wales. Robin Morgan fydd yn cymryd ei le.”
Does dim cadarnhad ynglŷn â pha bryd y bydd yn dychwelyd i gyflwyno’r rhaglen.
Daw wedi i’r canwr opera ymddiheuro ar ôl gwneud sylw “amhriodol” wrth lansio taith fyw Strictly Come Dancing.
Mae Mr Jones wedi bod ar daith gyda’r sioe fyw ers cystadlu ar y rhaglen ar BBC One gyda Katya Jones.
Cafodd fideo ei ffilmio yn ystod lansiad y daith fyw ar Ionawr 16. Yn y clip fideo mae modd clywed Wynne Evans yn gwneud sylw amhriodol, yn ôl adroddiad yn y Mail on Sunday.
Mewn datganiad dywedodd Wynne Evans: “Roedd fy iaith yn amhriodol ac yn annerbyniol ac rydw i’n ymddiheuro’r ddiffuant.”
Dywedodd llefarydd ar ran taith fyw Strictly a BBC Studios: “Nid oeddem yn ymwybodol o’r sylw o’r blaen ac ni chawsom unrhyw gwynion.
“Rydym wedi ei gwneud yn glir iawn i Wynne nad ydym yn goddef ymddygiad o’r fath ar y daith.”
Mae Wynne Evans wedi anafu ei bigwrn ar hyn o bryd ond yn gobeithio ail-ymuno â’r sioe yn hwyrach.
Mewn fideo yn ystod y penwythnos dywedodd: “Mae fy mhigwrn yn gwella ychydig, ac roedd yn wych gallu canu yng Nglasgow heno, hyd yn oed os nad oeddwn yn gallu dawnsio.
“Fe wna i roi gwybod i chi yn y bore. Caf i i weld sut mae'r chwydd yn mynd i lawr, a diolch am yr holl negeseuon hyfryd, anhygoel."