Wynne Evans yn ymddiheuro am sylw ‘amhriodol’ ar daith Strictly
Mae Wynne Evans wedi ymddiheuro am sylw “amhriodol” wrth lansio taith byw Strictly Come Dancing.
Mae’r canwr opera 52 oed o Gaerfyrddin wedi bod ar daith gyda’r sioe byw ers cystadlu ar y rhaglen ar BBC One gyda Katya Jones.
Cafodd fideo ei ffilmio yn ystod lansiad y daith byw ar Ionawr 16 ac ynddo mae modd clywed Wynne Evans yn gwneud sylw amhriodol, yn ôl adroddiad yn y Mail on Sunday.
Mewn datganiad dywedodd Wynne Evans: “Roedd fy iaith yn amhriodol ac yn annerbyniol ac rydw i’n ymddiheuro’r ddiffuant.”
Dywedodd llefarydd ar ran taith byw Strictly a BBC Studios: “Nid oeddem yn ymwybodol o’r sylw o’r blaen ac ni chawsom unrhyw gwynion.
“Rydym wedi ei gwneud yn glir iawn i Wynne nad ydym yn goddef ymddygiad o’r fath ar y daith.”
Mae Wynne Evans wedi anafu ei bigwrn ar hyn o bryd ond yn gobeithio ail-ymuno â’r sioe yn hwyrach.
Mewn fideo dywedodd: “Mae fy mhigwrn yn gwella ychydig, ac roedd yn wych gallu canu yng Nglasgow heno, hyd yn oed os nad oeddwn yn gallu dawnsio.
“Fe wna i roi gwybod i chi yn y bore. Caf i i weld sut mae'r chwydd yn mynd i lawr, a diolch am yr holl negeseuon hyfryd, anhygoel."
'Jôc wirion'
Yn gynharach yn y gyfres deledu, dywedodd y canwr fod yr ymateb i “jôc wirion” y gwnaeth yn ystod y gystadleuaeth yn “dorcalonnus”.
Cafodd clipiau ohono a Katya Jones eu rhannu, gyda channoedd o wylwyr ar y cyfryngau cymdeithasol yn awgrymu nad oedd eu partneriaeth yn fêl i gyd.
Roedd y cyntaf yn dangos Katya Jones yn anwybyddu ymdrech gan Wynne Evans i roi ‘pawen lawen’ iddi, a’r ail yn ei dangos yn gwthio ei law oddi ar ei chanol.
Dywedodd y partneriaid yn ddiweddarach ar y cyfryngau cymdeithasol mai “jôc wirion” ydoedd, a bod y ddau yn “ffrindiau go iawn”.