'Troi pob carreg': Cymeradwyo cynllun addysg yng Ngwynedd i 'ddysgu gwersi' o droseddau Neil Foden
Mae cynllun i “droi pob carreg i sefydlu be aeth o’i le” yn sgil troseddau’r pedoffeil Neil Foden wedi ei roi ar waith yng Ngwynedd.
Mewn cyfarfod o gabinet y Cyngor ddydd Mawrth, fe bleidleisiodd yr aelodau yn unfrydol o blaid gweithredu cynllun "cadarn a thryloyw" sy’n amlinellu’r trefniadau sydd ar y gweill mewn ysgolion ac o fewn yr awdurdod i “ddysgu gwersi” yn sgil troseddau’r cyn-bennaeth.
Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf 2024 ar ôl cam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.
Roedd Foden yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor ac yn bennaeth strategol Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes, Gwynedd.
Wedi i’r cyngor ymddiheuro yn gyhoeddus i ddioddefwyr Foden, ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaeth y Prif Weithredwr Dafydd Gibbard fynegi “dymuniad” yr awdurdod i ymddiheuro i’r dioddefwyr yn bersonol.
“Mae 'na ddatganiad o ymddiheuro swyddogol wedi’i wneud ond mae’n rhaid cofio mai datganiad cyhoeddus yn unig ydi hynny ac nid ymddiheuriad personol i’r dioddefwyr a’r goroeswyr,” meddai Mr Gibbard.
“Da ni angen bod yn gwneud hynny, da ni’n dymuno bod yn gwneud hynny a gyda help y cynllun cyswllt dioddefwyr, mi ydan ni eisoes wedi cychwyn ar y drafodaeth am sut i fynd o gwmpas i wneud hynny.
“Mae’n hanfodol bod unrhyw ymddiheuriad fel ‘na yn cael ei arwain gan y dioddefwyr a goroeswyr eu hunain, ac nid gennym ni.”
Bwriad y cynllun
Fel rhan o’r cynllun newydd, bydd y cyngor yn cynnal ymweliadau monitro trefniadau diogelu mewn ysgolion y sir bob blwyddyn o hyn allan, yn hytrach na phob yn ail flwyddyn.
Byddant hefyd yn cynnal ymchwiliad i ddarganfod pam na fu gweithred swyddogol gan yr awdurdod yn 2019 ar ôl i bryderon gael eu codi am ymddygiad amhriodol Foden.
Fel rhan o’r cynllun hefyd, bydd Bwrdd Rhaglen yn cael ei sefydlu i fonitro cynnydd y cynllun.
Bydd y Bwrdd yn cael ei arwain gan berson annibynnol ac yn cynnwys aelodaeth allanol o gyrff fel Swyddfa’r Comisiynydd Plant, Llywodraeth Cymru ac Estyn; yn ogystal â Chadeirydd y Panel - Adolygiad Ymarfer Plant.
Yn ôl yr adroddiad sydd wedi ei gyflwyno i’r cabinet, prif amcanion y cynllun fydd i "gydnabod yn agored a chyhoeddus na ddylai'r fath droseddau fyth fod wedi digwydd ac na ddylai'r un plentyn oddef y fath brofiadau."
Dywedodd arweinydd y cyngor, y cynghorydd Nia Jeffreys: “Pan gefais fy ethol yn arweinydd y cyngor cyn Dolig, fy ngweithred gyntaf un oedd i ymddiheuro i’r dioddefwyr ac i addo y byddwn yn troi bob carreg i sefydlu beth aeth o’i le”
"Mae comisiynu’r cynllun yma yn gam ar y daith i wireddu’r addewid yna. Mae cynllun ymateb yn gosod allan yr ystod o weithdrefnau a threfniadau sydd ar waith i ymchwilio i’r holl wersi i’w dysgu.
Ychwanegodd Dafydd Gibbard: “Mae o wedi bod yn sefyllfa eithriadol o heriol. Mewn sefyllfa o’r fath, does dim cynllun parod yn bodoli, dim cynllun da ni’n gallu tynnu oddi ar y silff. Mae’n sefyllfa heriol, ac un sydd yn eitha unigryw, un newydd sydd yn newid yn gyson hefyd.
"Mae hwn yn brif flaenoriaeth i’r cyngor. Mae’n mynd i gymryd amser, mae’n mynd i gymryd ymdrech – tydi hynny ddim otsh.
"Mi rydyn ni’n llwyr ymrwymedig i wneud popeth sy’n ddisgwyliedig ohonom ni ac sy’n gyfrifoldeb arnom ni.”
‘Symud i’r cyfeiriad cywir’
Dywedodd pennaeth addysg y cyngor hefyd bod Ysgol Friars yn “symud i’r cyfeiriad cywir” bellach, ar ôl penodi pennaeth dros dro yno.
Bydd Margaret Davies, pennaeth ysgol arbennig St Christopher's yn Wrecsam a chyn athrawes yn Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd, yn cychwyn yn y rôl ym Mhasg 2025, ar secondiad pedwar tymor hyd at ddiwedd tymor yr haf 2026.
Cafodd Lynne Hardcastle ei phenodi i arwain yr ysgol yn y byr dymor a bydd yn parhau yn y swydd hyd nes bod Margaret Davies yn dechrau yn ei swydd.
Dywedodd pennaeth addysg Cyngor Gwynedd, Gwern ap Rhisiart: “Fyswn i’n licio talu teyrnged i’r staff sydd yn yr ysgol.
"Mae ‘na waith arbennig yn mynd ymlaen yna o dan amgylchiadau gwbl ddigynsail dros y flwyddyn ddiwethaf.
"Mae’r gallu i gefnogi’r disgyblion yn nwylo’r ysgol ei hun a’r gwasanaethau ychwanegol sy’n dod i mewn i gefnogi nhw, ac enghraifft o hynny ydi gwasanaethau cwnsela sydd wedi cael eu hychwanegu i mewn i’r ysgol.
“Mae 'na wytnwch anhygoel wedi bod o’r rhan y gallu i barhau i ddarparu gwasanaeth arbennig i blant a phobl ifanc ardal Bangor yn yr ysgol yna.
"Mae’r berthynas rhyngom ni a'r person sy’n arwain yr ysgol rŵan yn gryf iawn ac yn symud i’r cyfeiriad cywir.”