Ymchwiliad i lofruddiaeth: Teyrnged teulu i ‘bencampwr’ fu farw
Mae teulu dyn a fu farw ym Mlaenafon wedi rhoi teyrnged iddo, wrth i ddyn arall gael ei gyhuddo o'i lofruddiaeth.
Fe dderbyniodd Heddlu Gwent adroddiad yn ystod oriau mân y bore ddydd Gwener fod Duane Keen, 47 oed, wedi dioddef anafiadau difrifol mewn cyfeiriad ar Rodfa Glan yr Afon yn y dref.
Fe gafodd dyn 34 oed o Dorfaen sydd heb ei enwi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac fe ddywedodd yr heddlu ddydd Sul ei fod bellach wedi’i gyhuddo.
Wrth roi teyrnged i Duane Keen, dywedodd ei deulu y bydd “colled fawr ar ei ôl”.
“Mae ein teulu wedi cael ei ddinistrio gan golli mab annwyl i Sandra a Jeff, brawd cariadus i Samantha a Ryan, tad cariadus i Corey, Joshua a Harry, a thaid ymroddedig i Thea Mai, Jaycee, Aliyah a Mila-Rose,” meddai’r teulu.
“Roedd Duane yn focsiwr gwych ac yn ymladdwr MMA amryddawn, gyda llawer o wobrau i’w enw.
“Roedd wrth ei fodd yn cerdded gyda’i gŵn. Byddai’n helpu unrhyw un oedd ei angen, ac roedd bob amser ar ben arall y ffôn.
“Does dim geiriau i fynegi’r hyn yr ydym ni fel teulu yn mynd drwyddo.
“Duane, roeddech chi’n bencampwr yn y cylch bocsio, ac i ni, ti oedd y pencampwr mwyaf.”