Newyddion S4C

Penodi pennaeth newydd ar ysgol ym Mangor lle’r oedd Neil Foden yn brifathro

Neil Foden

Mae pennaeth newydd ar secondiad wedi ei phenodi i ysgol ym Mangor lle’r oedd y pedoffeil Neil Foden yn brifathro.

Margaret Davies, pennaeth ysgol arbennig St Christopher's yn Wrecsam a chyn athrawes yn Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd, sydd wedi cael ei phenodi i swydd pennaeth Ysgol Friars.

Dywedodd Cyngor Gwynedd y bydd hi’n ymuno ar secondiad pedwar tymor o Basg 2025 hyd at ddiwedd tymor yr haf 2026. 

Cafodd Lynne Hardcastle ei phenodi i arwain yr ysgol yn y byr dymor a bydd yn parhau yn y swydd nes bod Margaret Davies yn dechrau arni, meddai'r cyngor.

Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf 2024 ar ôl camdrin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.

Roedd Foden yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor ac yn bennaeth strategol Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes, Gwynedd.

Image
Margaret Davies
Margaret Davies

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd wrth Newyddion S4C: “Ym mis Tachwedd 2024, penodwyd Margaret Davies yn bennaeth mewn gofal ar Ysgol Friars a bydd yn ymuno â’r ysgol ar secondiad pedwar tymor o Basg 2025 hyd at ddiwedd tymor yr haf 2026. 

“Yn y cyfamser, ers Tachwedd 2024, mae Lynne Hardcastle yn bennaeth interim ar Ysgol Friars hyd nes bydd Margaret Davies yn ymgymryd a’i rôl.

“Mae Cadeirydd llywodraethwyr yr ysgol wedi ysgrifennu at rieni a gwarcheidwaid disgyblion Ysgol Friars i’w diweddaru am y sefyllfa.” 

Dywedodd y cyngor na fydden nhw na’r pennaeth newydd yn cynnig sylw pellach.

Ymddiswyddo

Fe wnaeth arweinydd newydd Cyngor Gwynedd, Nia Jeffreys, ymddiheuro i ddioddefwyr Neil Foden wrth iddi gael ei phenodi i'r swydd mewn cyfarfod llawn o'r cyngor ym mis Rhagfyr.

Wrth siarad wedi'r bleidlais, dywedodd Nia Jeffreys: "Y peth cyntaf un dwi'n ei wneud fel arweinydd newydd Cyngor Gwynedd ydi datgan fy mod i a pawb arall yn y Siambr yma yn cyd-sefyll gyda dioddefwyr Neil Foden a hoffwn anfon neges atynt.

"Dwi yn ymddiheuro i chi o waelod fy nghalon am beth ddigwyddodd i chi a dw i'n gaddo troi pob carreg i stopio hyn rhag digwydd eto.

"Ar ran bob un cynghorydd yng ngrŵp Plaid Cymru, dwi'n ail-adrodd ein galwad am ymchwiliad cyhoeddus i fewn i beth ddigwyddodd."

Cafodd Nia Jeffreys ei dewis i fod yn arweinydd dros dro ar y cyngor ac arweinydd ar Grŵp Plaid Cymru yn y sir ganol fis Tachwedd, a hynny wedi i Dyfrig Siencyn ymddiswyddo fel arweinydd y cyngor ym mis Hydref.

Fe gamodd Mr Siencyn i lawr yn dilyn beirniadaeth am ei ymateb i waith ymchwil rhaglen deledu i achos y pedoffeil Neil Foden.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.