Newyddion S4C

'Ofn': Rhybudd am gynnydd posib mewn atgasedd hiliol yng Nghymru yn sgil achos Southport

Axel Rudakubana

Fe allai camwybodaeth sydd wedi’i rannu ar-lein am lofrudd Southport, Axel Rudakubana, arwain at ragor o gasineb hiliol ‘mewn ysgolion, ysbytai a chymdeithas’ yn ôl Cyngor Hil Cymru.

Mae'r cyngor yn rhybuddio aelodau a sefydliadau i ddisgwyl cynnydd mewn camdriniaeth ar lawr gwlad o ganlyniad i “atgasedd a chamwybodaeth” sydd yn cael ei rannu ar-lein.

Daw'r rhybudd yn sgil achos llys Axel Rudakubana, a blediodd yn euog ddydd Llun i lofruddio tair merch yn Southport mewn ymosodiad fis Gorffennaf y llynedd.

Bydd Rudakubana, a dreuliodd cyfnod o’i blentyndod yng Nghaerdydd, yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Lerpwl ddydd Iau.

Cafodd terfysgoedd eu cynnal ar draws Lloegr a Gogledd Iwerddon yr haf diwethaf wedi'r gyflafan, a chafodd sawl person o Gymru eu dyfarnu'n euog o rannu negeseuon ar-lein a oedd yn annog y terfysgoedd.

Cafodd grwpiau a sefydliadau o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yng Nghymru eu targedu yn ystod y cyfnod, yn ôl Cyngor Hil Cymru, gyda staff a chymunedau yn cael “profiadau gofidus”.

Dywedodd y grŵp eu bod yn diweddaru Llywodraeth Cymru a’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, am y sefyllfa.

'Ofn mewn cymunedau Cymreig'

Cafodd Rudakubana, sydd â rhieni o Rwanda a symudodd i Gaerdydd, ei eni yn y brifddinas, ble’r oedd yn byw am gyfnod cyn i’r teulu symud i bentref Banks yn Sir Gaerhirfryn.

Mae Cyngor Hil Cymru wedi cyhoeddi neges i'w haelodau yn nodi: “Yr haf diwethaf, daethom at ein gilydd i drafod y camwybodaeth a’r anhrefn a arweiniodd at ofn mewn cymunedau Cymreig yn dilyn y digwyddiadau yn Southport a’r terfysgoedd ehangach.

Image
Jane Hutt
Mae'r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, yn cael ei diweddaru ynglŷn â’r sefyllfa, yn ôl Cyngor Hil Cymru

“Oherwydd ei fod [Rudakubana] wedi treulio cyfnod o’i blentyndod yng Nghymru, mae’n bosibl y bydd ein sefydliadau partner neu gymunedau yn cael eu targedu unwaith eto gan wybodaeth anghywir a chasineb ar-lein.

“Mae risg uwch o hyn oherwydd natur y drafodaeth ar-lein yr ydym wedi'i weld yr wythnos hon. Rydym am eich sicrhau ein bod yn parhau i gefnogi sefydliadau sy’n gweithio gyda ni i gyflawni ein nod cyffredin o Gymru sydd yn gynhwysol i bob cymuned.”

'Off the charts'

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Molara Awen, Arweinydd Rhanbarthol Sir Benfro ar ran Cyngor Hil Cymru, bod y “camwybodaeth” am Rudakubana yn cael ei rannu’n fwriadol er mwyn “hollti cymdeithas”.

“Y broblem yw bod rhai yn dweud yn fwriadol, “mae o wedi dod mewn ar y small boats” - ac mae hynny yn nonsens. Mae’r bobl sydd yn rhannu gwybodaeth ffug fel hyn yn siarad nonsens.

“Ar ôl haf diwethaf, roedd y problemau off the charts, so da ni’ gwybod be sy’n mynd i ddigwydd nawr.

“Da ni’n byw mewn byd ble mae lot o bobl yn rhannu gwybodaeth ffug. Da ni nawr hefo Vladimir Putin, Donald Trump, Elon Musk, ac mae pob un yn dweud pethau sydd yn achosi divisions mewn cymdeithas, a dyna yw'r broblem.

Image
Molara Awen
Molara Awen o Gyngor Hil Cymru

“Rhaid i ni just edrych am y gwir a rhaid i ni just ffocysu ar y pethau pwysig a’r “pethau sy’n dod â ni efo’n gilydd, nid y pethau sydd yn ein gwahaniaethau.”

'Ysgolion ac ysbytai'

Mae’r camwybodaeth hefyd yn cael effaith ar lawr gwlad, yn ôl Ms Awen.

“Mae’r un hen hanes – mae un person gyda chroen brown yn gwneud rhywbeth ofnadwy ac mae pawb sydd hefo croen brown yn ofnadwy. Da ni just yn siarad am liw'r croen.

“Os ti’n clywed am rywun efo croen gwyn sydd wedi llofruddio plant, fel Lucy Letby er enghraifft, dwyt ti ddim yn clywed am gymunedau o bobl gyda chroen gwyn yn cael eu targedu gyda sylwadau hiliol. Dydyn ni ddim yn siarad am liw'r croen yn yr achos yma.

“Dim just ar-lein mae pobl yn cael eu targedu ond mewn person. Plant yn yr ysgol, pobl sy’n gweithio yn yr ysbyty, pobl sy’n gweithio mewn social care, mae’r sylwadau just off the charts.

“Dwi’n meddwl gyda’r cyfyngau cymdeithasol nawr, mae pobl yn meddwl maen nhw’n gallu dweud popeth, ond mae crossover o dipyn bach o bobl sydd yn camdrin pobl eraill mewn person nawr hefyd.

"Mae o ar draws cymdeithas ac mae o’n rili distressing.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni’n sefyll gyda'r rheiny sy’n uno cymunedau, ac yn ddiolchgar i’r sefydliadau hil am eu gwaith hanfodol wrth gyflawni ein Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol.

"Mae camwybodaeth sy'n lledaenu ar-lein yn peryglu cymunedau a sefydliadau yng Nghymru. 

"Rydyn ni’n cefnogi sefydliadau hil i fynd i'r afael ag effaith camwybodaeth, gan gynnwys pan gaiff staff a gwirfoddolwyr eu targedu. 

"Rydyn ni hefyd yn annog sefydliadau cymorth cymunedol i drafod camwybodaeth gyda'r bobl sy'n defnyddio eu gwasanaethau ac yn eu helpu i ddysgu ffyrdd o adnabod naratifau ffug."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.