Llofruddiaethau Southport: Axel Rudakubana yn pledio'n euog
Mae dyn 18 oed a gafodd ei eni a'i fagu yng Nghaerdydd wedi pledio’n euog i lofruddio tair merch yn Southport y llynedd.
Fe wnaeth Axel Rudakubana, o Banks yn Sir Gaerhirfryn, ymddangos yn Llys y Goron Lerpwl ddydd Llun wedi’i gyhuddo o lofruddiaethau Alice da Silva Aguiar, 9 oed, Bebe King, 6 oed, ac Elsie Dot Stancombe, 7 oed.
Bu farw’r tair eneth ifanc mewn ymosodiad mewn dosbarth dawnsio Taylor Swift ar 29 Gorffennaf. Roedd Rudakubana yn 17 oed ar adeg yr ymosodiad.
Dyma oedd yr ymosodiad mwyaf difrifol ar blant yn y Deyrnas Unedig ers yr ymosodiad yn Dunblane yn 1996, pan gafodd 15 o blant ac athrawes eu lladd mewn ysgol.
Roedd Rudakubana wedi pledio'n ddi-euog mewn gwrandawiadau blaenorol, ond fe blediodd yn euog i bymtheg cyhuddiad yn ei erbyn fore Llun.
Roedd ei wyneb wedi'i orchuddio gan fwgwd PPE, wrth iddo ateb "euog" i bob cyfrif yn ei erbyn.
Fe wnaeth y dyn ifanc, a dreuliodd ei blentyndod ym mhrifddinas Cymru cyn symud dros ddegawd yn ôl, hefyd bledio'n euog i geisio llofruddio wyth o blant eraill, yn ogystal ag athrawes Leanne Lucas a'r dyn busnes John Hayes.
Fe wnaeth hefyd gyfaddef i ddwy drosedd terfysgol yr oedd yn eu hwynebu, gan gynnwys cyhuddiad o fod â gwybodaeth yn ei feddiant allai fod yn ddefnyddiol i berson sy'n cyflawni gweithred derfysgol neu'n paratoi i wneud hynny.
Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ddydd Iau.
Dywedodd Mr Ustus Goose: “Rwy’n ymwybodol o’r ffaith nad yw’r teuluoedd yma heddiw. Rydych chi bellach wedi pledio’n euog i bob un o’r cyhuddiadau.”
Ychwanegodd: “Byddwch yn deall bod dedfryd oes yn anochel."