Achos Neil Foden: Ysgrifennydd Addysg yn cyfaddef bod 'angen gwneud mwy' i fonitro polisïau diogelu plant
Achos Neil Foden: Ysgrifennydd Addysg yn cyfaddef bod 'angen gwneud mwy' i fonitro polisïau diogelu plant
Mae'r Ysgrifennydd Addysg wedi cyfaddef bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru "wneud mwy" i fonitro argymhellion adroddiad Clywch ugain mlynedd wedi cyhoeddi'r ymchwiliad i'r athro a phedoffeil John Owen.
Daw sylwadau Lynne Neagle wedi i adroddiad hynod feirniadol gael ei gyhoeddi ddoe i droseddau'r prifathro a phedoffeil Neil Foden, a danlinellodd 52 cyfle posibl i atal ei droseddu.
Dywedodd Lynne Neagle bod y llywodraeth wedi gweithredu holl argymhellion Clywch, ond wedi i Newyddion S4C bwyso arni, fe ildiodd gan ddweud bod "angen gwneud mwy" i fonitro polisiau yn ymwneud â diogelu plant.
Carcharwyd Foden y llynedd am 17 mlynedd wedi iddo gael ei ganfod yn euog o gam-drin pedair merch yn rhywiol.
Cyhoeddwyd adroddiad 'Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder' i'w droseddau ddoe. Mae'n cynnwys atodiad sydd wedi ei neilltuo i gymariaethau rhwng troseddu Foden a John Owen yn Ysgol Rhydfelen.
Dywed yr adolwygwyr ei fod yn "ddychrynllyd bod Argymhellion yr Adolygiad cyfredol hwn yn adlewyrchu’r rhai a welwyd yn Clywch, a’u bod mor debyg, ac nad oes camau wedi’u cymryd i weithredu ar y materion allweddol na’u datrys 20 mlynedd yn ddiweddarach".
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1986104118667038864
'Methu credu'r peth'
Cymerodd yr awdur a dramodydd amlwg John Owen ei fywyd ei hun tra'n wynebu achos llys am gam-drin plant yn rhywiol.
Dair blynedd wedi ei farwolaeth, cyhoeddodd Comisiynydd Plant cyntaf Cymru adroddiad Clywch oedd yn ymchwilio i'w droseddau ac yn gwneud cyfres o argymhellion. Gobaith Peter Clarke oedd y byddai'r argymhellion rheiny yn "yn gymorth i leihau’r risg i blant gael eu cam-drin yn y dyfodol."
Ugain mlynedd ers cyhoeddi'r adroddiad hwnnw, mae mam i gyn-ddisgybl Ysgol Rhydfelen, lle roedd Owen yn dysgu, wedi dweud ei bod yn teimlo nad yw gwersi Clywch wedi eu dysgu.
Yn ei chyfweliad agored cyntaf ers cyhoeddi'r adroddiad, dywedodd Lynne Phillips, oedd yn ganolog i ymchwiliad Clywch:
"Mae Clywch yn meddwl listen...a dyw pobl heb wrando," meddai.
Dywedodd ei bd yn "methu credu'r peth" pan glywodd y newyddion am droseddau Neil Foden.
"Roeddwn i wedi bod drwy'r un peth ugain mlynedd nol ac roedd e'n digwydd eto. Pam?" gofynnodd.
"Mae e'r un peth - roedd y ddau ddyn yn debyg iawn. Ro'n i'n gobsmacked achos bod e mor debyg."
'Hawl i wybod'
Nicholas Cooke KC oedd cwnsler ymchwiliad Clywch. Mae'r cyn-ddirprwy Farnwr yn yr Uchel Lys yn galw am archwiliad i sicrhau nad yw adroddiad Clywch a'i argymhellion yn "casglu llwch".
"Mae hanes yn cadw ailadrodd," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mae ymchwiliadau yn cadw gwneud argymhellion, ond mae'r argymhellion rheny ond mor effeithiol a chydwybod y rheiny ddylai dalu sylw iddyn nhw flynyddoedd wedyn.
"Beth hoffwn i wybod, a dwi'n meddwl fod gan y cyhoedd hawl i wybod, ar lefel genedlaethol, a oedd digon o fnitro ac archwilio - a diweddaru."
Ymateb
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Gweithredwyd argymhellion Clywch ac fe gyflwynwyd polisiau a gweithdrefnau cenedlaethol cyson i ddiogelu plant.
"Canfyddodd adolygiad "Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder", er bod prosesau clir yn eu lle, gan gynnwys y rheiny gyflwynwyd ar ol Clywch, bod methiant i'w gwethredu yn gywir. Byddwn yn atgyfnerthu ein gwaith ac yn gweitho gyda'n partneriaid i sicrhau bod proses a gweithdrefnau yn cael eu dilyn yn gyson ac yn drylwyr.
"Bydd ein Adolygiad Cryfhau Llywodraethu Diogelu yn sicrhau bod systemau llywoodraethu diogelu yn parhau yn gadarn, yn wydn, ac yn gwbl addas."