Dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan gerbyd ym Mhowys
Llun: Google
Mae dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan gerbyd ym Mhowys ddydd Mawrth.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i wrthdrawiad ffordd rhwng cerddwr a pick-up Toyota Hilux gwyn ym mhentref Walton am 17:00 brynhawn Mawrth.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger ffyrdd yr A44 a'r B4362.
Bu farw'r dyn oedd yn cerdded yn y fan a'r lle.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion ar hyn o bryd.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn chwilio am dystion allai fod o gymorth i'w hymchwiliad, gan gynnwys unrhyw un sydd â lluniau dashcam.
Fe allai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu ar-lein neu drwy ffonio 101 a dyfynnu'r rhif cyfeirnod 25*905521.
