Dŵr Sir Conwy: Gwaith atgyweirio wedi ei gwblhau ond heriau'n parhau
Dŵr Sir Conwy: Gwaith atgyweirio wedi ei gwblhau ond heriau'n parhau
Mae cwmni Dŵr Cymru wedi cyhoeddi bod y gwaith o atgyweirio pibell ddŵr oedd wedi byrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd, Dolgarrog wedi’i gwblhau.
Mae hyd at 40,000 o gartrefi a busnesau wedi eu heffeithio ers i'r broblem godi ddydd Mercher ac mae pobl wedi bod yn casglu dŵr yfed o bedair canolfan ddosbarthu yn y sir ddydd Gwener.
Er bod y gwaith wedi ei gwblhau, mae Dŵr Cymru'n rhybuddio eu bod ar ganol "cyfnod anodd iawn yn y broses" ac fe allai gymeryd hyd at 48 awr i bawb dderbyn cyflenwadau unwaith eto.
"Rydym nawr yn ail-lenwi'r rhwydwaith. Ni fydd cyflenwadau dŵr yn cael eu hadfer yn llawn i'r holl gwsmeriaid sydd wedi eu heffeithio am hyd at 48 awr," meddai'r cwmni.
Wrth drafod yr heriau sydd i ddod, dywedodd llefarydd: "Mae angen i ni ail-lenwi'r prif gyflenwad dŵr a'r rhwydwaith dŵr ehangach yn ofalus iawn er mwyn osgoi problemau pellach.
"Mae'r rhwydwaith bron yn 900km o hyd ac mae'n cynnwys 13 tanc storio tanddaearol, gyda'n tanc storio mwyaf yn cyfateb i 9 pwll nofio maint Olympaidd.
"Bydd cyflenwad dŵr gwahanol gymunedau o fewn ardal y rhwydwaith yn cael ei adfer ar wahanol adegau, wrth i'r rhwydwaith lenwi eto."
Ychwanegodd y llefarydd: "Mae dŵr afliwiedig o'ch tapiau yn normal ar ôl y fath broblemau. Mae hyn fel arfer dros dro ac yn diflannu unwaith y bydd y rhwydwaith wedi setlo.
"Gofynnwn hefyd i gwsmeriaid wirio eu tapiau i sicrhau eu bod ar gau er mwyn helpu i gadw cyflenwadau wrth i ni ail-lenwi'r rhwydwaith."
Ymateb 'syfrdanol o wael'
Mae arweinydd yr wrthblaid yn Senedd Cymru wedi disgrifio ymateb Dŵr Cymru i'r sefyllfa fel un “syfrdanol o wael”.
Dywedodd Darren Millar sy’n aelod o Senedd Cymru dros Orllewin Clwyd, sy’n cynnwys rhan o’r ardal sydd wedi ei effeithio, bod ei etholwyr yn “gandryll” fore dydd Gwener.
Fe wnaeth ei sylwadau cyn i Dŵr Cymru gyhoeddi bod y gwaith atgyweirio wedi ei gwblhau brynhawn dydd Gwener.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Mr Millar: “Mae’r ymateb wedi bod yn syfrdanol o wael. Nid yw’r trefniadau wrth gefn wedi gweithio.
“Mae gennym ni argyfwng dyngarol lle nad oes gan famau ifanc y dŵr wedi'i sterileiddio ar gael i'w babanod.
“Mae gennym ni gartrefi gofal sydd ddim yn gallu gwisgo clwyfau na fflysio eu toiledau yn iawn.
“Effeithiwyd ar filoedd o fusnesau hefyd, a chynigiwyd iawndal gwarthus i fusnesau a thrigolion sy’n gwsmeriaid. Mae angen gweithredu’n gyflym nawr i weddnewid y sefyllfa hon."
Ychwanegodd: “Mae fy etholwyr yn gandryll nad ydyn nhw’n teimlo bod y cyfathrebu gan Dŵr Cymru wedi bod yn ddigon da. Maen nhw am weld ymchwiliad i’r sefyllfa hon ar ôl i’r argyfwng hwn ddod i ben, i wneud yn siŵr bod gwersi’n cael eu dysgu.”
Roedd Darren Millar hefyd yn feirniadol o ymateb Llywodraeth Cymru i’r problemau.
“Mae yna ddistawrwydd wedi bod gan Lywodraeth Cymru - maen nhw i weld yn gwylio o’r ymylon,” meddai.
“Nid yw’n ymddangos eu bod nhw eisiau cymryd rhan. Rydw i wedi cyflwyno cwestiwn brys i'w drafod yn y Senedd yr wythnos nesaf.
“Byddaf yn gwneud yn siŵr bod lleisiau fy etholwyr yn cael eu clywed.”
Wrth ymateb i'r feirniadaeth, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Gweinidogion wedi ymgymryd yn agos â'r ymateb amlasiantaeth ers yr hysbysiad cyntaf o'r digwyddiad hwn ddydd Mercher.
"Mae Dŵr Cymru yn gweithio mor gyflym â phosibl i adfer cyflenwadau i gartrefi a busnesau yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt, ac mae gwasanaethau cyhoeddus lleol yn canolbwyntio ar ddiogelu'r aelwydydd mwyaf agored i niwed.
"Mae cyflenwadau dŵr potel ychwanegol yn cael eu symud i'r ardaloedd yr effeithir arnynt ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyngor i bobl ar gadw'n ddiogel ac yfed digon tra bod y cyflenwad dŵr yn cael ei adfer."
Prif lun: Dŵr Cymru