Canolfannau dosbarthu dŵr yfed yn agor yn Sir Conwy
Canolfannau dosbarthu dŵr yfed yn agor yn Sir Conwy
Mae pedair gorsaf ddosbarthu dŵr yfed wedi eu hagor yn Sir Conwy ar gyfer pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ddiffyg dŵr yfed yn y sir - un yn Zip World ger Betws y Coed, un ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn, un ym Modlondeb, Conwy, ac un ym maes parcio traeth y gorllewin yn Llandudno.
Mae hyd at 40,000 o gartrefi yn y sir yn parhau heb gyflenwad dŵr ddydd Gwener, gyda Bae Conwy, Bae Colwyn, Llandudno, Llanrwst, Llanfairfechan a Threfriw yn rhan o'r ardal eang sydd wedi ei heffeithio.
Mae cwmni Dŵr Cymru wedi cyhoeddi bod y gwaith o atgyweirio pibell ddŵr oedd wedi byrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd, Dolgarrog wedi’i gwblhau.
Ond er hynny mae'r cwmni yn rhybuddio eu bod ar ganol "cyfnod anodd iawn yn y broses" ac fe allai gymeryd hyd at 48 awr i bawb dderbyn cyflenwadau unwaith eto.
Nos Iau fe wnaeth Cyngor Sir Conwy roi gorchymyn i fusnesau sydd heb ddŵr gau am y tro.
Cyhoeddodd y cyngor y neges gan eu hadran Iechyd yr Amgylchedd ar eu cyfryngau cymdeithasol yn dweud y bydd rhaid cau “ar unwaith” nes bod y broblem yn cael ei datrys.
Iawndal
Mae Dŵr Cymru wedi cyheddi manylion iawndal i gwsmeriad sydd wedi cael eu heffeithio.
Bydd pob cartref cymwys yn cael £30 mewn iawndal am bob 12 awr yr effeithiwyd ar eu cyflenwadau. Bydd hwn yn cael ei dalu'n awtomatig i gwsmeriaid yn eu cyfrifon banc.
Mewn datganiad, dywedodd y cwmni: "Bydd sieciau'n cael eu dosbarthu dros yr wythnosau nesaf i gwsmeriaid nad ydynt wedi cofrestru cyfrif banc gyda ni.
"Bydd cwsmeriaid busnes yn cael iawndal o £75 am bob 12 awr yr effeithiwyd ar eu cyflenwadau ond bydd busnesau hefyd yn gallu cyflwyno hawliadau ar wahân am golli incwm ychwanegol."
Daw hyn wrth i lefarydd ar ran cwmni Dŵr Cymru ddweud y gallai bellach gymryd "dros 48 awr" i adfer cysylltiad dŵr pawb.
Roedd dros 20 o ysgolion ar gau ddydd Gwener oherwydd y diffyg dŵr gan gynnwys ysgolion uwchradd Ysgol Aberconwy, Ysgol Eirias ym Mae Colwyn, Ysgol John Bright yn Llandudno, Ysgol Bryn Elian yn Hen Golwyn ac Ysgol y Creuddyn ym Mae Penrhyn, ac ysgol addysg arbennig Ysgol y Gogarth.
Mae rhestr lawn o'r ysgolion cynradd sydd ar gau ar wefan Cyngor Sir Conwy, ac ar waelod yr erthygl hon. Bydd Campws Rhos Coleg Llandrillo hefyd ar gau, medden nhw.
Fe gododd y trafferthion ôl i bibell ddŵr fyrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd yn Nolgarrog gyda miloedd o gartrefi yn colli eu cyflenwad dŵr dros nos, nos Fercher.
Mae Sw Mynydd Bae Colwyn ymysg y busnesau sydd wedi cau ddydd Gwener oherwydd y toriad dŵr.
"Mae ein tîm o geidwaid ymroddedig ar y safle yn gofalu am ein hanifeiliaid ac mae’r cyflenwad dŵr sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio i sicrhau nad yw lles anifeiliaid yn cael ei effeithio," medden nhw.
Dywedodd Gerddi Bodnant eu bod nhw hefyd ar gau a'n "meddwl am bawb yn yr ardal leol heb gyflenwad dŵr".
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1879942312316285357
‘Anodd’
Dywedodd Alun Shurmer o Dŵr Cymru fore dydd Gwener bod y broblem yn un "ddifrifol".
"Roedd un o'n prif bibelli cyflenwi dŵr yn yr ardal wedi torri ac yn anffodus wedi torri dan yr afon," meddai.
"Mae metr a hanner dan wely'r afon sydd wedi creu problem gref iawn o ran cyrraedd y bibell yn y lle cynta' - ni wedi gorfod arallgyfeirio'r afon er mwyn caniatáu i'n staff gyrraedd y biben yn saff a'i drwsio mor gynted â phosib.
"Mae hynny wedi cymryd amser hir - yn lot hirach nag oedden ni'n gobeithio oherwydd yr amodau maen nhw'n gweithio ynddo."
Yn ôl un cynghorydd sir, mae'n "ddigwyddiad mawr" a gafodd ei achosi gan “y rhew'r wythnos diwethaf, a symudodd bibell concrit gan wneud i'r bibell fyrstio”.
Fe ychwanegodd y Cynghorydd Siân Grady bod ymdrechion i adfer y sefyllfa wedi achosi i bibell “chwalu”, sydd wedi “arafu’r gwaith atgyweirio” gan fod yn rhaid arallgyfeirio’r afon.
Dywedodd y cynghorydd Nia Clwyd Owen bod tanceri dŵr yn darparu ar gyfer ysbytai.
"Rydyn ni'n erfyn ar ddŵr Cymru i sicrhau bod gorsaf dosbarthu dŵr yn Llanrwst achos mae llawer iawn o gartrefi wedi eu taro yma," meddai.
"Does dim dŵr yn y siopau rŵan chwaith - mae'r shilffoedd yn wag."
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1879866302476460341
Ysgolion cynradd sydd ar gau
- Ysgol Awel y Mynydd
- Ysgol Bendigaid William Davies
- Ysgol Betws yn Rhos
- Ysgol Bod Alaw
- Ysgol Bodafon
- Ysgol Bro Gwydir
- Ysgol Craig y Don
- Ysgol Cynfran
- Ysgol Cystennin
- Ysgol Deganwy
- Ysgol Dyffryn yr Enfys
- Ysgol Eglwysbach
- Ysgol Ffordd Dyffryn
- Ysgol Glanwydden
- Ysgol Glan Conwy
- Ysgol Hen Golwyn
- Ysgol Llangelynnin
- Ysgol Llandrillo yn Rhos
- Ysgol Llanddoged
- Ysgol Mochdre
- Ysgol Morfa Rhianedd
- Ysgol Nant y Groes
- Ysgol Pen y Bryn
- Ysgol Porth y Felin
- Ysgol San Siôr
- Ysgol Sant Joseff
- Ysgol Sŵn y Don
- Ysgol T Gwynn Jones
- Ysgol Talhaiarn
- Ysgol Tudno
- Ysgol Y Plas