Newyddion S4C

Streic gan reolwyr Avanti West Coast wedi'i ohirio yn rhannol

16/01/2025
tren avanti

Mae streic gan reolwyr cwmni drenau sy'n gwasanaethau gogledd Cymru wedi ei ohirio am y ddau ddydd Sul nesaf.

Wythnos diwethaf, fe wnaeth yr undeb RMT gyhoeddi y byddai rheolwyr cwmni Avanti West Coast sydd yn rhan o’r undeb yn cynnal streic bob dydd Sul tan 25 Mai, gan eu bod yn anfodlon gyda'u hamodau gwaith.

Roedd rhybuddion y byddai’r streic yn amharu ar wasanaethau trên, gyda dim gwasanaethau trên Avanti West Coast yng ngogledd Cymru ddydd Sul 12 Ionawr.

Ond mewn cyhoeddiad ddydd Iau, dywedodd RMT y byddai’r streic yn cael ei ohirio am y ddau ddydd Sul nesaf i alluogi trafodaethau barhau.

Fe fydd y  streiciau y tu hwnt i hynny yn parhau, fel mae pethau yn sefyll.

Dywedodd llefarydd ar ran RMT fod gohirio’r streiciau yn adlewyrchu “ewyllys da ac ymrwymiad”  yr undeb wrth geisio “canfod datrysiad i’r anghydfod.”

“Rydym yn ymateb i ddatganiadau gan Avanti ac yn gobeithio y gallai cynnydd sylweddol cael ei wneud yn ystod y trafodaethau er mwyn ceisio sicrhau setliad i bawb," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.