Rhybudd i deithwyr wrth i reolwyr trenau Avanti West Coast streicio bob Sul am bum mis
Mae rhybudd i deithwyr trenau y bydd streiciau gan reolwyr Avanti West Coast yn amharu ar wasanaethau trên bob Sul am bum mis.
Bydd y rheolwyr sy'n aelodau o undeb yr RMT yn streicio bob dydd Sul tan 25 Mai, gan eu bod yn anfodlon gyda'u hamodau gwaith.
Ni fydd gwasanaethau trenau yng ngogledd Cymru ar ddiwrnodau'r streic sy'n dechrau ddydd Sul 12 Ionawr.
Mae Avanti yn cynghori eu cwsmeriaid i deithio ar y diwrnodau agosaf at y streiciau, gan y bydd yr amserlen wedi ei chyfyngu ar ddiwrnodau'r anghydfod.
Bydd llai o wasanaethau ac mae disgwyl i'r trenau sy'n rhedeg fod yn brysur iawn, meddai'r cwmni.
Maen nhw wedi cyhoeddi y bydd un trên yn teithio bob awr rhwng gorsaf Euston yn Llundain a Birmingham, Manceinon a Preston.
Bydd gwasanaeth cyfyngedig i Glasgow a Carlisle, meddai'r cwmni.
Y cyngor ydy i wirio amserlenni cyn dechrau unrhyw daith.
'Siomedig'
Dywedodd Kathryn O’Brien, cyfarwyddwr gwasanaethau cwsmeriaid Avanti West Coast: "Rydym yn siomedig bod yr RMT wedi penderfynu cyhoeddi streiciau am gyfnod estynedig pan fydd ein cwsmeriaid efallai’n gweithio, yn ymweld â theulu a ffrindiau, neu’n mwynhau diwrnodau allan.
"Bydd hyn yn amharu ar deithiau ein cwsmeriaid yn sylweddol, ac rydw i eisiau diolch iddyn nhw am eu hamynedd a'u dealltwriaeth."
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr RMT, Mick Lynch: "Mae angen i Avanti gyflwyno cynnig newydd sy’n bodloni ein haelodau.
"Rydym yn parhau i fod yn barod i drafod a chyrraedd cynnig teg."